Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig (DU) wedi cyhoeddi ei argymhelliad ynghylch dyfodol ystadegau poblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Awdurdod yn argymell y dylid cynnal cyfrifiad yn 2031, ynghyd â pharhau i ddatblygu ystadegau gan ddefnyddio data gweinyddol. Yn ogystal â hynny, mae’r Awdurdod hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru (a Llywodraeth y DU) ymrwymo i rannu setiau data gweinyddol a buddsoddi ynddynt.
Rwy’n croesawu’r argymhelliad i gynnal cyfrifiad o’r boblogaeth yng Nghymru yn 2031, ac rwy’n cefnogi datblygu ystadegau ymhellach gan ddefnyddio data gweinyddol. Mae Llywodraeth Cymru a llawer o ddefnyddwyr eraill yng Nghymru yn gwneud defnydd helaeth o ystadegau’r cyfrifiad ar gyfer dibenion polisi, cynllunio a chyllid. Rwy’n credu y bydd defnyddwyr ystadegau yng Nghymru yn croesawu’r argymhellion hyn sy’n sicrhau y bydd eu hanghenion am ddata cynhwysol, cywir a manwl yn parhau i gael eu diwallu.
Heddiw hefyd, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi Adroddiad Cyffredinol Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi gweithrediadau’r cyfrifiad o 2021 ymlaen, a’r gwersi a ddysgwyd y gweithredir arnynt mewn cyfrifiad yn y dyfodol.
Mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a ddylid galw cyfrifiad ai peidio. Fodd bynnag, os derbynnir yr argymhelliad hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i baratoi ar gyfer cyfrifiad yn 2031, gan adeiladu ar y llwyddiannau a’r gwersi a ddysgwyd o Gyfrifiad 2021. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i rannu’r data sydd eu hangen i gynnal cyfrifiad ac i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu ystadegau o ddata gweinyddol â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rwyf wedi ysgrifennu i Lywodraeth y DU i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r argymhellion hyn, ac mae copi o’r llythyr hwnnw wedi ei gynnwys gyda’r datganiad hwn.
Dogfennau
-
Letter to Georgia Gould MP, Saesneg yn unig, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 154 KB
Saesneg yn unig154 KB