Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2019, sefydlais Dasglu Parcio ar y Palmant Cymru (TPPC) annibynnol i helpu i fynd i’r afael â pharcio ar balmentydd gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.

Cafodd pob un o ddeg argymhelliad y Tasglu Parcio ar y Palmant eu derbyn gan Lywodraeth Cymru.

Gwnaethom ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a mireinio ymhellach y cynnig i roi pwerau i Awdurdodau Lleol fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd drwy gyflwyno is-ddeddfwriaeth i ganiatáu gorfodi sifil. Fodd bynnag, mae cynnydd wedi bod yn rhwystredig o araf.

Er mwyn cyflawni ein nod, mae angen i Lywodraeth y DU ddiwygio’r rheoliadau presennol ar rhwystro’r ffordd – yn benodol gwahanu rhwystrau ar y palmant. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i hyn, ond nid yw eto wedi sicrhau amser seneddol i fwrw ymlaen â hyn, ac nid yw amser yn debygol o gael ei ganfod yn y dyfodol agos ychwaith.

Fe ailgynullais y Tasglu Parcio ar y Palmant Cymru y flwyddyn ddiwethaf a gofynnais iddynt archwilio ffyrdd eraill o gyflawni ein nodau polisi. Archwiliodd y Tasglu ymarferoldeb defnyddio'r drosedd bresennol o rwystro'r ffordd i fynd i'r afael â pharcio ar y palmant. Gallai’r dull hwn ddod â manteision ychwanegol, gan ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru ymdrin â pharcio ar balmentydd a cherbydau wedi’u parcio sy’n rhwystro ein ffyrdd.

Mae'r Tasglu Parcio ar y Palmant wedi darparu atodiad i'w hadroddiad gwreiddiol ac wedi argymell mai dyma'r ffordd orau ymlaen. Rwyf wedi derbyn yr argymhelliad hwn ac yn awr yn cynnig ymgynghori’n eang cyn hynny gyda golwg ar gyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol erbyn diwedd 2023.