Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mai 2015, cyhoeddais ddatganiad i Aelodau am Gynllun y Bathodyn Glas ynghylch sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu’r cynllun ac i gynnig newidiadau i wella’r cynllun.

Cyhoeddwyd Adroddiad y Grŵp a’i argymhellion ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad, ym mis Rhagfyr 2015.  Dosbarthais yr adroddiad cyn ei gyhoeddi i Aelodau er mwyn iddynt gael cyfle i gynnig eu sylwadau arno.  Rwyf wedi derbyn pob un o 13 argymhelliad y Grŵp yn llawn a bellach rwyf wedi sefydlu Grŵp Cyflawni’r Bathodyn Glas i roi argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar waith.

Mae Bathodynnau Glas yn erfyn pwysig iawn i bobl allu byw bywydau annibynnol.  Maen nhw’n help hefyd i’r bobl sy’n dibynnu ar gymorth gofalwyr i ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau.  Dyma’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas a fyddai neb yn anghytuno â’r manteision a ddaw o’u helpu i fyw bywydau llawn ac annibynnol.

Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am weinyddu’r cynllun yng Nghymru.  Gwn fod llawer o Aelodau wedi cael cwynion gan eu hetholwyr ynghylch gwahanol agweddau ar gynllun y Bathodyn Glas.

Gwelodd y Tasglu fod y 22 Awdurdod yn cynnal y cynllun mewn ffyrdd gwahanol i’w gilydd, gan arwain at ryw fath o ‘loteri cod post’, a gwelwyd anghysonderau hefyd yn y ffordd y mae’r cynllun yn cael ei weinyddu, sut mae ymgeiswyr yn cael eu hasesu a sut mae’r cynllun yn cael ei orfodi.

Er bod yn rhaid wrth broses gadarn, ni ddylai’r rheini sydd angen y bathodyn gael eu llethu gan waith papur.  Rwyf am i’r broses ymgeisio am y Bathodyn Glas gael ei rheoli’n ofalus fel bod y bathodyn yn cael ei roi i’r rheini sydd ei angen trwy asesiad addas.  Rwy’n credu, unwaith y mae rhywun wedi cael ei asesu’n briodol ar gyfer Bathodyn Glas, na ddylai orfod cael ei asesu eto.

Er i’r grŵp ddweud wrthyf bod Awdurdodau Lleol yn prosesu ceisiadau sy’n bodloni’r amodau awtomatig mewn ffordd gyson ac effeithiol, nid felly y mae hi bob tro gyda cheisiadau o dan yr amodau dewisol.

I sicrhau dilyniant, rydym wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i helpu Awdurdodau Lleol i weinyddu’r cynllun yng Nghymru.  Cyflwynwyd y pecyn dilysu ym mis Awst 2014 a byddwn yn cadw llygad arno i wneud yn siŵr ei fod yn ateb y gofyn.  Rwy’n annog pob Awdurdod Lleol i ddefnyddio’r pecyn dilysu fel bod gennym drefn gyson ledled y wlad.

Rwyf wedi ysgrifennu at Awdurdodau Lleol am weithio gyda chymorth y Gwasanaeth Cynghori Annibynnol, i asesu’r rheini a wnaeth gais i adnewyddu’u Bathodyn Glas o dan yr amodau dewisol yn 2015 ac a wrthodwyd.  Rwyf hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol i’n helpu i wella’r pecyn, fel ei fod yn eu helpu i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf yn gyson i ymgeiswyr sy’n gwneud cais o dan yr amodau dewisol, hynny yn unol ag argymhelliad y grŵp gorchwyl a gorffen.

Mae Cymru’n arwain y ffordd trwy ychwanegu pobl â nam gwybyddol sy’n ei chael yn anodd teithio’n ddiogel ac annibynnol at y grŵp o bobl sy’n gymwys am y Bathodyn.  Mae rhannau eraill y DU yn ystyried dilyn ein hesiampl.  

Mae nifer o Aelodau wedi fy holi ynghylch cyfraniad meddygon teulu at asesu ceisiadau.  Mae’r grŵp wedi gweld tystiolaeth bod defnyddio meddygon fel hyn yn amhriodol, gan ei fod yn rhoi baich annheg ar y berthynas rhwng y doctor a’r claf.  Mae’r ystadegau’n dangos bod dros 1100 o fathodynnau wedi’u rhoi ym mis Rhagfyr yng Nghymru yn unig ar sail asesiad gan feddyg.  Dw i ddim yn credu mai dyma’r ffordd orau o ddefnyddio arbenigedd meddyg teulu.  Bydd tynnu meddygon o’r broses asesu yn lleihau’r baich ar amser ac adnoddau meddyg teulu ac yn eu rhyddhau i ganolbwyntio ar gleifion.  Mae’r ddibyniaeth ar feddygon teulu’n lleihau ac rydym yn mynd tua’r cyfeiriad cywir, ond rwyf am i hyn barhau, yn unol ag argymhelliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

Rwy’n sylweddoli bod gan rai ymgeiswyr anghenion amrywiol a chymhleth, a dyna oedd y rheswm dros sefydlu’r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ym mis Rhagfyr 2014.  Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys tîm o therapyddion galwedigaethol i helpu Awdurdodau Lleol i asesu achosion anodd.  Testun siom imi oedd gweld bod hanner yr awdurdodau lleol heb fanteisio ar y gwasanaeth proffesiynol hwn.  Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i helpu awdurdodau lleol ac i sicrhau parhad i ymgeiswyr.

Mae modd rhoi rhai o argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar waith yn gyflym ac rwyf eisoes wedi cymryd camau i wneud hynny.  Rwyf wedi lansio ymgynghoriad yr wythnos hon ar yr argymhellion hyn, gan gynnwys cynnig ychwanegu pobl â chyflyrau dros dro at y rheini sy’n gymwys am Fathodyn Glas; symleiddio’r drefn ar gyfer gwneud ail gais; a gwella’r drefn orfodi i rwystro pobl rhag camddefnyddio’r bathodynnau a dwyn y mannau parcio sydd eu hangen ar ddeiliad y Bathodyn Glas.  Rwy’n gobeithio y gwnaiff y rheini sydd â diddordeb ymateb.

Ni fydd modd gwireddu rhai o argymhellion y grŵp ar unwaith, gan y bydd angen newid deddfwriaeth sylfaenol.  Rwy’n glir fodd bynnag fy mod am weld gwelliant a byddaf yn ystyried y dadleuon o blaid sefydlu un corff i weinyddu’r cynllun trwy Gymru a chyhoeddi cyfarwyddyd statudol ar orfodi’r cynllun.

Rwy’n sylweddoli bod Bathodynnau Glas yn cael eu camddefnyddio weithiau.  Hoffwn bwysleisio mai dim ond y person y cafodd y bathodyn ei roi iddo sy’n cael ei ddefnyddio, a dim ond os ydy hwnnw neu honno yn y car, boed fel gyrrwr neu deithiwr, y cewch ei ddangos yn y cerbyd hwnnw.

Gwaetha’r modd, rydym i gyd wedi gweld ceir heb fathodyn wedi’u parcio yn y safleoedd Bathodynnau Glas.  Mae tystiolaeth lafar hefyd bod ffrindiau a pherthnasau’n defnyddio’r bathodynnau wrth mofyn neges neu wrth wneud cymwynas i ddeiliad bathodyn.  Nid dyna yw diben y Bathodyn Glas o gwbl.

Mae’r Grŵp wedi dweud wrthyf gymaint o argraff y cafodd trefniadau gorfodi Cyngor Dinas Porthsmouth arnynt.  Rwy’n deall i swyddogion gorfodi yn Portsmouth, yn y ddau ddiwrnod cyn Nadolig, gasglu 69 o fathodynnau oedd yn cael eu camddefnyddio neu oedd wedi dod i ben.  Roedd bathodyn o Gymru yn eu plith.  Byddaf yn edrych i weld sut maen nhw mor effeithiol ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i hyrwyddo arferion da.

I gloi, rwy’n credu mai un o’r problemau mwyaf yw diffyg dealltwriaeth o’r cynllun, pwy sydd i fod elwa arno a sut y dylai bathodynnau gael eu defnyddio.  Mae ymgyrch gyfathrebu’n rhan hanfodol o’r rhaglen waith, nid i ddefnyddwyr y bathodynnau yn unig, ond hefyd i’r cyhoedd yn gyffredinol i’w cael i ddeall y rhesymau dros fodolaeth y cynllun.  Dyma fydd sylfaen rhaglen waith y grŵp cyflawni.