Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o fod wedi derbyn argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy, a sefydlwyd er mwyn cyflymu'r broses o ddarparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer rhent cymdeithasol. Rwyf am ddiolch i Lee Waters AS ac aelodau'r Tasglu am eu hymrwymiad a'u gwaith caled wrth ffurfio'r argymhellion hyn. 

Mae'r Prif Weinidog wedi pwysleisio bod darparu mwy o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn un o brif flaenoriaethau'r llywodraeth hon. Mae hynny oherwydd bod tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd, ac yn rhoi hwb i dwf economaidd. Rydym yn bwrw ymlaen gyda'r agenda uchelgeisiol hon trwy ddulliau cyflenwi a buddsoddiadau heb eu hail – ond rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn cymryd pob cam posibl.

Mae gwaith y Tasglu yn rhoi cyfle gwerthfawr i wneud mwy, yn gyflymach. Cyfarfu'r Tasglu yn rheolaidd, gan ymgysylltu'n helaeth â'r sector i roi'r argymhellion hyn ar waith cyn gynted â phosibl. Mae eu gwaith yn tystio i'r ffaith bod ein partneriaid cyflenwi ledled Cymru yn awyddus i weithio ar y cyd i waredu rhwystrau a darparu hyd yn oed mwy o gartrefi fforddiadwy i bobl ledled Cymru. 

Mae nifer yr argymhellion a wnaed gan y Tasglu yn ein hatgoffa nad oes un ateb syml i gyflymu'r camau cyflenwi. Yn hytrach, gallwn wella'r system mewn sawl ffordd ac mae'n rhaid i ni wneud hynny. Byddaf yn derbyn yr argymhellion am y meysydd rwyf i'n gyfrifol amdanynt a byddaf yn siarad â fy nghydweithwyr yn y Cabinet os oes argymhellion sy'n berthnasol i'w cyfrifoldebau nhw. 

Rwyf am adeiladu ar y momentwm a grëwyd gan waith y Tasglu er mwyn symbylu'r newid.  Rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i sefydlu grŵp gweithredu sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector a byddaf yn cyhoeddi aelodau’r grŵp hwnnw cyn bo hir. Byddaf yn gofyn i'r grŵp adrodd yn ôl i mi yn rheolaidd ar y cynnydd maen nhw'n ei wneud i werthuso a gweithredu'r argymhellion cyn gynted â phosibl.

Rwy'n cyhoeddi'r adroddiad terfynol ochr yn ochr â'r datganiad hwn.