Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 Ar 15 Ebrill 2014, byddaf yn cyhoeddi £1 miliwn o nawdd i helpu gwasanaethau cynghori’r rheng-flaen yn 2014/15, a’m bwriad yw neilltuo lefel debyg o arian ym mlynyddoedd ariannol 2015/16 a 2016/17.

Pwrpas yr arian hwn yw rhoi cefnogaeth ariannol pellach i fudiadau cynghori annibynnol di-elw i’w helpu i barhau i roi cyngor di-dâl a diduedd i unigolion a theuluoedd yng Nghymru.  Gwn fod cyllidebau llawer o’r mudiadau hyn wedi’u torri’n drwm yn ddiweddar ac er nad yw Llywodraeth Cymru yn bwll diwaelod o arian, bydd yr arian rwy’n ei gyhoeddi’r wythnos hon yn mynd ran o’r ffordd i sicrhau bod cyngor ar gael i’r bobl sydd ei angen i allu gwneud penderfyniadau doeth ynghylch budd-daliadau, rheoli dyledion ac arian, tai a gwahaniaethu.

Mae’r arian hwn yn ychwanegol i’r £2.2 miliwn y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wario i gefnogi’r cynllun Cyngor Da, Bywyd Da sy’n cael ei gynnal gan y Canolfannau Cyngor ar Bopeth a’r prosiect £2.4 miliwn sy’n cael ei ddarparu ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Cymunedau yn Gyntaf i roi cyngor ar fudd-daliadau a dyledion mewn 36 o glystyrau Cymunedau yn Gyntaf ledled y wlad.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhan o ymdrech ehangach Llywodraeth Cymru i drechu tlodi ac anghydraddoldeb ac i liniaru effeithiau’r diwygiadau i’r system les.  Rwyf am glustnodi ychydig dan draean o’r arian hwn i ddatblygu gwasanaeth cynghori arbenigol ar wahaniaethu ar gyfer Cymru gyfan ac i ddysgu gwasanaethau cynghori mwy cyffredinol am faterion gwahaniaethu. Bydd hynny’n ein helpu i wneud yn siŵr bod camau’n cael eu cymryd i gefnogi amcan cyntaf y Cynllun Cydraddoldeb Strategol sef “Atgyfnerthu gwasanaethau cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth er mwyn helpu unigolion â nodweddion gwarchodedig ddeall ac arfer eu hawliau a gwneud dewisiadau hyddysg.”  Gwn fod grwpiau sydd â ‘nodweddion gwarchodedig’ yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi ac o deimlo effeithiau’r newidiadau sydd wedi’u gwneud i’r system les.

Bydd yr arian yn helpu hefyd y bobl sy’n ymgodymu â dyledion neu a allai wneud y tro â help llaw i gael trefn well ar eu harian.  Rydym am gefnogi gwasanaethau fydd yn helpu pobl i ddatblygu’u galluoedd a rhoi’r sgiliau a’r hyder iddyn nhw allu rheoli gwahanol agweddau ar eu bywyd yn well.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn cyfnod o drafod manwl â’r prif randdeiliaid, yn enwedig y rheini sy’n aelodau o Fforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol Cymru.  Cynrychiolwyr y prif fudiadau ymbarél sy’n rhoi cyngor ar lefel Cymru a Phrydain yw aelodau’r Fforwm hwn.

Bydd modd ymgeisio am y grant o fory, 15 Ebrill, ymlaen.  Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i fudiadau ddangos eu hymrwymiad i gydweithio, hynny o safbwynt cydweithio â chynghorwyr eraill a hefyd o safbwynt meithrin cysylltiadau â gwasanaethau cyhoeddus eraill sydd â’r un weledigaeth a phwrpas â nhw.  Rydym yn arbennig o awyddus o weld mwy o gydweithio rhwng gwasanaethau cynghori ac Undebau Credyd er enghraifft, yn enwedig os gallai’r cydweithio arwain at ganlyniadau gwell i gleientiaid.  Bydd gofyn i fudiadau ddangos ymrwymiad hefyd i gynnal safonau a gwelliant parhaus, ac esbonio sut ydynt am roi gwybod i ni am y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud i fywydau pobl.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad o Wasanaethau Cynghori a gyhoeddodd ei adroddiad ym mis Mai 2013.  Byddwn yn dal i drafod â rhanddeiliaid wrth i ni roi rhai o argymhellion eraill yr Adolygiad ar waith, yn enwedig wrth i ni ystyried sut orau i gefnogi sector cynghori a fydd yn mynd ati mewn ffordd fwy strategol a chydlynol i gynllunio a darparu gwasanaethau cynghori yng Nghymru.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os carai’r aelodau i mi roi datganiad pellach neu i ateb cwestiynau arno pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn fwy na hapus i wneud hynny.