Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae arloesi wedi bod yn ffordd bwysig o'n hymateb i bandemig COVID-19. Er enghraifft, gwelwyd symudiad cyflym i ffyrdd digidol newydd o weithio, gwaith partneriaeth agos rhwng y GIG a chyflenwyr i darparu PPE hanfodol ac i ddatblygu apiau newydd, a gwaith ardderchog i olrhain cysylltiadau a gwasanaethau darparu'r brechlyn. Sefydlwyd y rhain i gyd ledled Cymru mewn byr iawn o amser.

Bu hon yn ymdrech eithriadol gan y GIG, yr awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol. Cafodd ei hwyluso hefyd gan ein buddsoddiad mewn arloesi dros y blynyddoedd diwethaf, fel y nodir yn Cymru Iachach, ein strategaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a gyhoeddwyd yn 2018.

Yn ystod y cyfnod heriol hwn rydym wedi gweld mor gryf yw arloesi yng Nghymru. Rwyf yn benderfynol inni barhau i adeiladu ar y llwyddiannau hynny, i gydnabod rhagoriaeth ac arferion da, a manteisio ar yr hyn a ddysgwyd yn y 18 mis diwethaf. Rwyf am gadw cyflymder a graddfa'r newid, fel rhan o'n hadferiad yn dilyn Covid-19, ac i sicrhau ein bod yn darparu'r canlyniadau gorau posibl i gleifion a'r cyhoedd yng Nghymru.

Rwyf wedi gofyn i swyddogion gyfuno gweithgareddau arloesi presennol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac i ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol dros yr haf ar y rhaglen newydd a chyfleoedd yn y dyfodol, gan gynnwys sut y bydd y rhaglen newydd yn rhan o Strategaeth Arloesi Cymru yn y dyfodol.

Bydd y rhaglen arloesi hon ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dod â ffocws tynnach i gweithgareddau presennol, yn cryfhau cyfeiriad cenedlaethol, ac yn ymgorffori newidiadau a welwyd mewn ymateb i'r pandemig, gan helpu i gadw cyflymder a graddfa'r newid mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Ym mis Mehefin ymunais â Gweinidogion o'r pedair gwlad i drafod y Weledigaeth ar gyfer Gwyddorau Bywyd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU. Mae'r weledigaeth yn ddatganiad uchelgeisiol o fwriad. Bydd y rhaglen arloesi ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn helpu i sicrhau bod Cymru'n cymryd rhan gyflawn yn y gwaith i wireddu'r weledigaeth honno'n ymarferol, ar draws pob rhan o'r DU.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.