Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n gredwr cryf yn y ffaith fod angen cydweithio er mwyn cyflawni newid effeithiol. Fe wnes i, felly, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gomisiynu arolwg genedlaethol o’r gweithlu addysg er mwyn helpu i lywio a dylanwadu ar y newidiadau sylweddol sydd yn yr arfaeth gennym ni fel llywodraeth.

Heddiw, mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Gweithlu Addysg.

Mae’r arolwg wedi rhoi cyfle unigryw i’r gweithlu addysg edrych yn ôl ar eu profiadau a rhoi eu barn ar ystod o faterion sy’n effeithio arnynt; materion fel y cwricwlwm ac asesu, datblygu proffesiynol, rheoli perfformiad, llwyth gwaith a’r Gymraeg.

Cefais siom, felly, o weld mai dim ond 14% (10,408) o weithlu o dros 72,497 a achubodd ar y cyfle i helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu polisi.  I’r mwyafrif, mae hyn yn gyfle sydd wedi ei golli.  

Er hynny, mae’r ymarfer wedi cyflawni fy mwriad o gynnal arolwg o lwyth gwaith athrawon. Mae hefyd wedi dangos y gwerth yr ydym yn ei roi ar ein gweithlu addysg a’n hymrwymiad i sicrhau bod y gweithlu hwnnw yn greiddiol i ddatblygiadau sy’n mynd i gael effaith arnynt.

Nid oes atebion hawdd i’r materion amrywiol a godwyd. Wrth gwrs, mae nifer o bethau cadarnhaol wedi dod i’r amlwg, fel mynediad at ddysgu proffesiynol a’r hyder wrth gyflenwi/defnyddio TGCh.  Er hynny, rhaid i ni, fel llywodraeth, gydnabod bod rhagor o waith i’w wneud o ran sicrhau bod ein gweithlu yn teimlo eu bod yn cael y gefnogaeth orau sydd ar gael iddynt.  Fel blaenoriaeth, rwy’n benderfynol o fynd i’r afael â’r hen broblem honno, sef llwyth gwaith, a sicrhau bod gan athrawon le ac amser i addysgu hyd eithaf eu gallu, lleihau biwrocratiaeth ddiangen a sicrhau bod ein hathrawon yn cael eu cefnogi gan Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch a Gweithwyr Cymorth Dysgu rhagorol.

Dros y misoedd nesaf, wrth gydweithio â Chyngor y Gweithlu Addysg, byddwn yn dadansoddi’r holl ddata a ddaeth i law drwy’r arolwg hwn er mwyn ein helpu i lywio newidiadau i’r polisi.  Rwy’n benderfynol o gael system addysg sy’n perfformio i lefel uchel lle y mae ymarferwyr yn cydweithio i wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu.

Mae copïau o’r arolwg ar gael yn llyfrgell yr aelodau ar http://www.cga.cymru.