Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Arolwg Heintiadau Covid-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi chwarae rhan bwysig iawn o ran sicrhau gwyliadwriaeth gymunedol o heintiadau Covid-19 drwy gydol y pandemig.

Mae llywodraethau datganoledig y DU wedi gweithio gyda’r tîm astudiaeth i sicrhau’r mewnwelediadau gorau posibl ar draws y DU i gyfraddau positifedd, lefelau digwyddedd, lefelau gwrthgyrff ac effaith amrywiolion sy’n peri pryder. Bu’r arolwg hwn yn bosibl diolch i gyfranogiad y cyhoedd. Rydym yn gwerthfawrogi pawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith.

Yn anffodus, o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, bydd casglu data o dan gam presennol yr Arolwg Heintiadau Covid-19 nawr yn cael ei atal tra bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud am fodelau gwyliadwriaeth yn y dyfodol. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i fynegi fy siom dwys a’m pryder ynghylch colli’r darn pwysig hwn o wyliadwriaeth.

Bydd y penderfyniad i beidio â pharhau i gynnal Arolwg Heintiadau Covid-19 yn ei ffurf bresennol yn lleihau’r data sydd ar gael i olrhain hynt y feirws yn y DU a gall hyn ei gwneud yn anoddach inni fesur cyffredinrwydd coronafeirws yn ein cymunedau.

Mae’r oedi mewn cael cadarnhad gan Lywodraeth y DU am unrhyw arolygon gwyliadwriaeth newydd yn y DU hefyd yn golygu y bydd bwlch sylweddol yn y gyfres ddata.

Er ei bod yn bwysig inni barhau i bontio tuag at fyw’n ddiogel gyda coronafeirws, nid yw’r pandemig ar ben – rydyn ni’n gweld cynnydd arall mewn achosion o’r feirws ar hyn o bryd. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwyliadwriaeth dŵr gwastraff rhagorol a systemau gwyliadwriaeth lleoliadau risg uchel a chymunedol Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys dilyniant genom. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r holl gyfleoedd gwyliadwriaeth sydd ar gael inni i fonitro cyfraddau achosion yn ofalus a dadansoddi data fel y gallwn ymateb yn gyflym pe bai angen hynny.

Rydym yn parhau i weithio gyda gwledydd eraill y DU i ystyried y dull gweithredu ar gyfer astudiaethau gwyliadwriaeth yn y dyfodol, yn ogystal â sut y byddwn yn monitro ystod o afiechydon heintus eraill sy’n risg i iechyd y cyhoedd.