Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o'r Senedd fy mod newydd gymeradwyo achos busnes i gynnal Arolwg Tai Cymru yn 2027-28.
Darparwyd yr arolwg diwethaf – arolwg cenedlaethol o gyflwr tai, yn 2017-18 ac rwy'n gwybod bod llawer o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, wedi bod yn galw am arolwg pellach i ddarparu sylfaen dystiolaeth wedi'i diweddaru. Er bod data gweinyddol fel Tystysgrif Perfformiad Ynni a data'r dreth gyngor yn cael eu defnyddio fwyfwy at ddibenion dadansoddol, nid yw'r data hyn ar eu pennau eu hunain yn gallu bodloni ein gofynion tystiolaeth ar hyn o bryd, ac mae angen arolwg tai cyfnodol o hyd.
Ar ôl datblygu Achos Cyfiawnhad Busnes manwl, a oedd yn asesu'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer darparu arolwg, rwyf wedi penderfynu comisiynu Arolwg Tai Cymru llawn. Bydd hwn yn fanylach na'r arolwg a ddarparwyd yn 2017-18 a bydd yn debyg yn fras i Arolwg Tai Lloegr. Bydd yn cynnwys dwy ran: arolwg cymdeithasol manwl i gasglu gwybodaeth aelwydydd sydd ei hangen ar gyfer dadansoddi tlodi tanwydd (megis incwm), yn ogystal â phrofiadau a safbwyntiau o ran tai; ac archwiliad ffisegol o gartrefi a gynhelir gan syrfëwr cymwys i gasglu gwybodaeth am adeiladwaith a chyflwr y cartref.
Credaf y bydd y dull hwn yn darparu tystiolaeth ehangach i lywio'r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisi yn fwy effeithiol nag arolwg cyflwr tai yn unig. Yn ogystal â darparu gwybodaeth fanwl am dlodi tanwydd, perfformiad ynni cartrefi ac ansawdd tai ar draws pob deiliadaeth, bydd hefyd yn galluogi'r gwaith o gasglu tystiolaeth i gefnogi polisïau tai fforddiadwy, ail gartrefi a digartrefedd yn well.
Yn dilyn y penderfyniad hwn, bydd fy swyddogion drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, yn datblygu manyleb tendr fanwl fel y gall ymarfer caffael ddechrau erbyn diwedd 2025-26. Bydd hyn yn galluogi gwaith maes i gael ei wneud yn 2027-28, gyda phrif ganlyniadau ar gael o 2028-29, a chanfyddiadau manylach o 2029-30.
Byddaf yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o'r Senedd am y gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo.