Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn ganolog i’n rhaglen ar gyfer trawsnewid addysg a chymorth i ddegau ar filoedd o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, i wella eu profiad addysgol a’u helpu i wireddu eu potensial.

Mae’r Bil yn gonglfaen i raglen drawsnewid llawer ehangach – yn ogystal â’r newidiadau yn y gyfraith, mae yna newidiadau i ddiwylliant ac ymarfer, a fydd yn arwain at y canlyniadau gwell rydym yn ceisio eu cyflawni ar gyfer dysgwyr.

Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddais becyn cyllid o £20 miliwn i gefnogi’r rhaglen drawsnewid. Bydd hyn yn cefnogi’r broses o drawsnewid o un system statudol i un arall ac yn sicrhau newidiadau yn y system ehangach.

Ers mis Chwefror rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i fireinio’n dull o drawsnewid ac rwy’n falch o gyhoeddi y byddwn yn cyllido pum arweinydd trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen.

Bydd pedwar o’r arweinwyr trawsnewid yn gweithredu yn ardaloedd y consortia rhanbarthol ar ôl-troed consortia addysg, a bydd un arweinydd yn gweithio fel arweinydd trawsnewid addysg bellach ar sail genedlaethol.

Bydd y swyddi hyn yn allweddol yn ein strategaeth weithredu gyffredinol drwy sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu paratoi i weithredu’r system anghenion dysgu ychwanegol newydd. Byddant yn cefnogi a herio; yn cyflawni rôl gydweithredol; yn goruchwylio hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ac yn gwneud cyfraniad allweddol at hwyluso gwelliannau mewn gwaith aml-asiantaeth.

Bydd yr arweinwyr trawsnewid yn cael eu recriwtio ac yn dechrau ar eu gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd hyn yn sicrhau bod cysylltiadau’n cael eu gwneud â phrosiectau’r gronfa arloesi anghenion dysgu ychwanegol, a fydd yn para tan fis Mawrth 2018. Bydd hefyd yn galluogi’r arweinwyr trawsnewid i godi ymwybyddiaeth o’r Bil wrth iddo barhau i fynd drwy’r Cynulliad Cenedlaethol a byddant yn cynorthwyo awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a cholegau i gyflwyno cynlluniau gweithredu’n gynnar.

Rydym yn parhau i drafod â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru a bwrdd Colegau Cymru. Byddaf yn darparu diweddariad pellach i’r Aelodau am swyddi’r arweinwyr trawsnewid yn yr hydref, yn cynnwys gwybodaeth am eu cyllidebau.

Byddwn hefyd yn cyfuno grantiau gweithredu awdurdodau lleol ar sail ranbarthol i sicrhau bod buddsoddiad yn cael cymaint o effaith â phosibl. Bydd hyn yn helpu i leihau biwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â’r grantiau ac i ganolbwyntio ar gyflawni gwasanaethau - un o brif argymhellion adroddiad craffu cam 1 y Pwyllgor Cyllid y byddaf yn ymateb yn ffurfiol iddo cyn diwedd y tymor.

Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, byddaf yn darparu diweddariad llawn am y rhaglen drawsnewid ym mis Medi. Byddaf yn sicrhau bod yr holl Aelodau’n cael eu diweddaru ar yr un pryd.