Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf drwy hyn am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am yr hyn gaiff ei wneud mewn cysylltiad â darpariaethau’r Asedau o Werth Cymunedol (ACV) yng Nghymru.

Roedd fy Natganiad Ysgrifenedig ar 13 Hydref 2014 ynghylch datblygu cynigion sy’n deillio o ddarpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, yn cyflwyno achos glir o blaid ystyried bod ateb penodol i’r cwestiwn hwn yn ddewis gwell i Gymru.  Rydym wedi bod yn trafod y materion hyn ers hynny gydag amrywiaeth o randdeiliaid i’m helpu i benderfynu ar y camau nesaf.

Mae’r Datganiad yn egluro fy mwriad i gynhyrchu Papur Ymgynghori ym mis Mai 2015.  Bydd yn disgrifio’r cyd-destun o ran polisi ac arfer ac yn dadansoddi’r opsiynau ar gyfer model Cymreig.  Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried asedau sydd mewn dwylo cyhoeddus a phreifat a’i nod fydd ennyn trafodaeth dros yr haf â rhanddeiliaid ar y cynigion a roddir ger bron.

Bydd yr ymgynghoriad yn ategu’r Papur Gwyn ar ‘Ddiwygio Llywodraeth Leol: Pŵer i Bobl Leol’ a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015.  Rwy’n gweithio’n glos â’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i ystyried y materion y mae’r Papur Gwyn Llywodraeth Leol yn eu codi.  Mae’n dangos yn glir y cyfleoedd newydd sydd i fudiadau cymunedol ddylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol eu rheoli.

Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar draws y Llywodraeth.  Lansiodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Becyn Asedau Cymunedol ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a diwylliant ar 26 Chwefror 2015.  Mae’r Pecyn hwn yn ategu gwaith y Gweithgor Asedau Cenedlaethol a’r canllaw cyffredinol ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol y bydd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 31 Mawrth 2015. Mae Gweithgor Llywodraeth Cymru ar Asedau Cymunedol wedi’i sefydlu i annog cydweithio ar draws nifer o feysydd portffolio Gweinidogion.

Os bydd gofyn am fframwaith statudol newydd mewn cysylltiad ag Asedau o Werth Cymunedol, mae’n anorfod yr aiff y broses heibio etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol.  Fodd bynnag, ystyriwn yn y cyfamser beth y gallwn ei wneud yn y tymor byr wrth inni ddiwygio Llywodraeth Leol.

Ceir modelau llwyddiannus eisoes ar draws Llywodraeth Leol yng Nghymru i annog trosglwyddo asedau cymunedol, er enghraifft, amcan Pecyn ‘Stepping Up’ Cyngor Dinas Caerdydd yw gweithio’n rhagweithiol â chymunedau i gymryd awenau gwasanaeth neu ased cymunedol a oedd gynt yn cael ei redeg gan gorff cyhoeddus.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent newydd gyhoeddi Polisi ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol a cheir enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus yng Nglynebwy a Bryn-mawr.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, rwyf wedi ymrwymo i ystyried pa gymorth sydd ei angen i wella sgiliau ac i weithio gyda’n cymunedau o ran trosglwyddo asedau a dod â buddiannau go iawn iddynt.  Rwyf wedi cytuno i ariannu swydd trwy Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) am 12 mis i dreialu model ar gyfer Gwent.  Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth rhanbarthol i grwpiau cymunedol i ddatblygu cynigion a sbarduno mwy o arloesi a chydweithio.  Mae hyn yn adeiladu ar fodel sy’n bod mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a bydd yn fy helpu i bwyso a mesur rhinweddau model rhanbarthol.

Rydym yn gweithio hefyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i drefnu digwyddiad cenedlaethol ym mis Mehefin 2015 mewn cydweithrediad â’r Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector.  Bydd yn rhoi syniadau ymarferol i gyrff ar gyfer rheoli’r broses trosglwyddo asedau’n llwyddiannus.  Rwy’n falch i’r Loteri Fawr gyhoeddi arian CAT II ym mis Ionawr 2015 a fydd yn sicrhau bod yna fwy o adnoddau ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol yn y dyfodol.

I gloi, rwyf wedi ymrwymo i ofalu bod camau’n cael eu cymryd yn y tymor byr i sbarduno arloesi a chydweithrediad wrth waredu ar asedau.  Fodd bynnag, trwy’r ymgynghoriad, rwyf am ddatblygu ffordd o weithio yng Nghymru sy’n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf ac a fydd yn grymuso cymunedau.  Rwyf am i Gymru ddatblygu model sy’n gwella ac yn diogelu ein hasedau cymunedol ond sydd hefyd yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus er budd cenedlaethau i ddod.  Bydd hynny’n helpu i ddiogelu’r asedau y mae pobl leol yn eu trysori ac sy’n rhan annatod o’u bywydau.