Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n awyddus i Gymru fod ar y blaen yn fyd-eang o ran defnyddio technoleg ddigidol i wella cyrhaeddiad, cefnogi dysgu gydol oes a hybu dwyieithrwydd. Felly mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod yr asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) ar-lein newydd ar gael bellach, a fydd yn helpu i sicrhau safonau uchel ac uchelgeisiau i bawb. Hwn yw'r olaf yn y casgliad o asesiadau sydd ar gael i athrawon eu defnyddio fel y mynnant drwy'r flwyddyn er mwyn cefnogi a llywio eu haddysgu a'u gwaith cynllunio cynnydd mewn darllen a rhifedd.

Mae'r asesiadau Rhifedd (Rhesymu) ar-lein hyn wedi'u cynllunio'n arloesol, maent yn torri tir newydd ac yn unigryw i Gymru. Cymru yw'r wlad gyntaf i gynnig asesiad rhesymu rhifyddol safonol cenedlaethol mewn un system ar lefel genedlaethol, gan gyfuno’r nodweddion canlynol: fformat addasol a arweinir gan y dysgwr; yn cael ei gynnal ar y sgrin yn gyfan gwbl a'i farcio'n awtomatig; yn defnyddio ‘cliwiau’ pan fydd angen help ar ddysgwyr wrth ateb cwestiwn; yn adrodd am ganlyniadau at ddiben ffurfiannol; yn dangos cynnydd ar un raddfa dros nifer o flynyddoedd ar gyfer unigolion a grwpiau penodol o ddysgwyr.

Gyda chyflwyno ein Cwricwlwm newydd i Gymru ym mis Medi, bydd rôl asesiadau ar lefel ysgol yn newid yn sylweddol. Bydd ysgolion a lleoliadau yn datblygu trefniadau asesu er mwyn rhoi cyfle i bob dysgwr unigol wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau y caiff ei gefnogi a'i herio yn unol â hynny. Er mwyn bod yn barod ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, mae'r asesiadau personol ar-lein wedi cael eu cyflwyno fel adnodd i gefnogi'r ffordd newydd hon o asesu dysgwyr ac i helpu i godi safonau sgiliau darllen a rhifedd.

O dan y trefniadau newydd, defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau asesu er mwyn llunio darlun holistaidd o'r dysgwr. Fel rhan o hyn, wrth iddynt gynllunio dysgu a chefnogi cynnydd dysgwyr, caiff ymarferwyr eu hannog i ystyried yn llawn yr wybodaeth am sgiliau a nodir gan yr asesiadau personol, ynghyd â gwybodaeth arall sy'n deillio o'r ystafell ddosbarth.

Gall ysgolion drefnu cynnal yr asesiadau personol ar adeg a fydd yn fwyaf buddiol ar gyfer eu dysgwyr yn eu tyb nhw, ac fel rhan o'u trefniadau asesu ehangach. Gall ysgolion hefyd gynnal yr asesiadau ddwywaith er mwyn adolygu newidiadau a chynnydd a welir yn sgiliau eu dysgwyr yn ystod y flwyddyn. Defnyddir yr wybodaeth o'r asesiadau i helpu ysgolion i gynllunio cynnydd yn y sgiliau trawsgwricwlaidd sydd eu hangen ar ddysgwyr er mwyn manteisio ar rychwant cwricwlwm yr ysgol. Hoffwn bwysleisio mai diben yr asesiadau yw helpu dysgwyr i wneud cynnydd; ni luniwyd yr asesiadau i'w defnyddio at ddibenion atebolrwydd, ac ni fwriedir eu defnyddio at ddibenion o'r fath, ar unrhyw lefel.

Bydd modd i athrawon ddefnyddio'r adborth a geir o asesiadau i gefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd, gan y bydd yn eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth o'u cryfderau a chamau nesaf posibl mewn meysydd sgiliau allweddol, yn ogystal â dealltwriaeth o gynnydd dros amser. Gellir wedyn rannu'r ddealltwriaeth hon â rhieni a gofalwyr. Gall ysgolion hefyd fanteisio ar adroddiadau grŵp er mwyn rhoi cyfle i athrawon adolygu sgiliau a chynnydd ar lefel y grŵp ac ar lefel y dosbarth. At hynny, ar ôl i ddysgwyr gwblhau'r asesiadau Rhifedd (Rhesymeg), bydd athrawon yn cael casgliad o adnoddau a gweithgareddau diddorol a gomisiynwyd yn benodol i ddatblygu hyfedreddau dysgwyr.

Mae’r sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn orfodol yng nghwricwlwm bob ysgol, a byddant yn parhau yn orfodol. Bydd pob ymarferydd sy'n gweithio ym mhob maes cwricwlwm yn gyfrifol am ddatblygu'r sgiliau hyn a sicrhau cynnydd ynddynt. Bydd yr asesiadau personol yn rhoi'r adnoddau digidol i ysgolion i'w cefnogi yn y gwaith hwn.