Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Mercher diwethaf ymunais â chyfarfod gyda'r Prif Weinidog a Mr. Marc Lassouaoui, Rheolwr Allgymorth yn Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid Palesteina yn y Dwyrain Agos (UNRWA). Rhoddodd Mr Lassouaoui ddiweddariad ar yr argyfyngau dyngarol yn Gaza, a'u rôl wrth gefnogi Palestiniaid yn y Lan Orllewinol, a'r rhanbarth ehangach.

Mae UNRWA yn parhau i fod yn achubiaeth hanfodol i filiynau o ffoaduriaid Palesteinaidd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am godi'r blocâd ar gymorth yn Gaza. Rydym wedi dweud na ddylai cymorth dyngarol fyth gael ei ddefnyddio fel offeryn gwleidyddol ac ymuno â Llywodraeth y DU i alw ar Israel i barchu cyfraith ryngwladol a chaniatáu llif dirwystr o gymorth. Rydym hefyd yn ailadrodd na ddylid defnyddio cymorth dyngarol fel offeryn gwleidyddol ac mae Israel yn rhwym o dan gyfraith ryngwladol i ganiatáu i'r cymorth hwn gael ei drosglwyddo yn ddirwystr.

Rydym yn galw am adfer mynediad dyngarol llawn, dirwystr ar frys ar draws Gaza a'r Lan Orllewinol. Dylid cefnogi a grymuso UNRWA i gyflawni ei mandad, a rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed—yn enwedig plant, yr henoed, a'r rhai sydd wedi eu dadleoli—yn derbyn y bwyd, y gofal a'r amddiffyniad sydd eu hangen ar frys.