Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau y bwriedir eu cymryd yn sgil yr Astudiaeth ar Gydnerthedd yr A55, a gynhaliwyd dros yr haf.  

Mae astudiaeth Cam 1 WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) wedi ystyried pob agwedd ar y ffordd rhwng Caergybi a Post House, yn ogystal â ffyrdd cysylltiedig fel coridor yr A494 o Gyfnewidfa Ewloe i Drome Corner, a llwybrau gwyro. Mae wedi ystyried ble a sut orau i wella'r profiad teithio a sut i sicrhau bod cyn lleied o ddigwyddiadau ag y bo modd a bod cerbydau sy'n torri i lawr yn cael cyn lleied o effaith â phosibl.  

Nodwyd nifer o ymyriadau a fydd yn dwyn ffrwyth yn gyflym. Gallai’r ymyriadau hynny leihau tagfeydd ar adegau allweddol, gwella'r cyfathrebu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid, gwella'r ymateb i ddigwyddiadau a gwaith clirio, gwella'r ffordd yr ydym yn rheoli asedau a gwella llwybrau gwyro.

Yn sgil yr astudiaeth, byddwn yn rhoi nifer o welliannau ar waith, gan gynnwys gosod teledu cylch cyfyng diwifr a threialu meddalwedd synhwyro digwyddiadau er mwyn inni fedru monitro tagfeydd traffig yn well. Ynghyd â'r camau uchod, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ymchwilio i'r posibilrwydd o ddarparu rhagor o arwyddion negeseuon electronig a gwell cyngor teithio ar-lein i helpu teithwyr i gynllunio'u siwrneiau. Byddwn hefyd yn manteisio ar wasanaethau rheolwr cyfathrebu i oruchwylio'r gwaith o ddarparu trefniadau cyfathrebu rhagweithiol ar gyfer cwsmeriaid ledled Cymru.

Byddwn yn anelu at sicrhau bod mwy o Swyddogion Trafnidiaeth ar gael ar adegau allweddol, megis gwyliau cyhoeddus, a byddwn hefyd yn treialu cynllun achub cerbydau rhad ac am ddim mewn lleoliadau allweddol, er mwyn sicrhau bod modd mynd i'r afael ag unrhyw ddigwyddiadau cyn gynted ag y bo modd. Rwyf wedi gofyn hefyd i fy swyddogion ymchwilio i fanteision posibl darparu criw ychwanegol o Swyddogion Traffig i fynd ar batrôl ar Ynys Môn ac mewn ardaloedd eraill.

Mae'r astudiaeth wedi tynnu sylw at broblemau sy'n bodoli eisoes o ran cyflymder traffig sy'n teithio i gyfeiriad y gorllewin ar Allt Rhuallt a byddwn, o'r herwydd, yn ystyried treialu camau i orfodi cyflymder cyfartalog yn y man hwnnw.

Bydd yr holl gamau hyn yn ategu cynlluniau sy'n bodoli eisoes ar gyfer gwelliannau ar hyd y ffordd strategol allweddol hon a byddwn yn parhau i sicrhau bod cyn lleied o waith ffordd ag y bo modd yn tarfu ar lif y traffig. Gyda golwg ar hynny, hoffwn achub ar y cyfle hwn i gadarnhau fy nyhead na fydd unrhyw gau lôn a gynlluniwyd yn cael ei wneud yn ystod y dydd ar yr A55 i'r dwyrain o Gyffordd 11 (Llandygái) tan hydref 2018; cafodd y gwaith diwethaf a oedd yn golygu bod angen cau lonydd ar y rhan honno o'r ffordd ei gwblhau ar 3 Ebrill 2017. Bydd yn rhaid inni, yn ôl ein harfer, ymateb i unrhyw argyfyngau neu ddigwyddiadau annisgwyl ar y rhwydwaith. Mae'n bwysig nodi hefyd fod gwaith cynnal a chadw hanfodol wedi'i wneud dros nos ar yr A55 ar 336 noson yn 2016/17 er mwyn sicrhau bod y traffig yn dal i lifo ar adegau prysur.

Bydd gwaith yn mynd rhagddo bellach drwy gyfrwng astudiaeth Cam 2 WelTAG i arfarnu rhagor o opsiynau i wella'r ffordd yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.

Mae copi o'r Adroddiad ar Astudiaeth Cam 1 Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ar Gydnerthedd yr A55 i'w weld ar-lein yma.