Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o waith arloesol a chyffrous Astudiaeth Caerffili, dan arweiniad yr Athro Peter Elwood. Ym mis Medi 1979, dechreuwyd ar brosiect ymchwil, yn dilyn 2,500 o ddynion o Gaerffili a phentrefi cyfagos, gyda’r nod o adolygu  effaith ffordd iach o fyw ar eu hiechyd.

Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar bum ymddygiad bywyd: dim ysmygu; màs corff isel; deiet iach; gweithgarwch corfforol rheolaidd; a defnydd isel o alcohol. Mae canlyniadau’r astudiaeth hirdymor hon yn  drawiadol.

Maent yn dangos bod y dynion hynny a fabwysiadodd ffordd iach o fyw - dilyn pedwar neu bum ymddygiad iach - mewn llai o berygl o ddioddef rhai mathau o afiechydon cronig a marw’n gynnar, o’i gymharu â’r dynion hynny a oedd yn dilyn dim neu un o’r ymddygiadau. 

Bwriad gwreiddiol yr astudiaeth oedd ystyried clefyd isgemia'r galon yn unig, ond datgelodd y data fuddion sylweddol eraill, gan gynnwys gostyngiad o 50% mewn diabetes, a’r “trysor mawr” fel y mae’r Athro Elwood yn ei ddisgrifio, sef gostyngiad o 60% mewn dementia. Ar y cyfan, mesurwyd gostyngiad o 60% mewn marwolaethau cynnar yn y grŵp a fabwysiadodd ffordd iach o fyw. Mae’r dystiolaeth yn eglur – mae dewisiadau mewn ffordd o fyw yn dylanwadu ar nifer y blynyddoedd o fywyd iach.  
Mae byw yn y ffordd hon, fel y dywed yr Athro Elwood, ‘yn well nag unrhyw dabledi...a hynny heb unrhyw sgil effeithiau.’

Ar 30 Hydref, 2014, roedd yn anrhydedd gennyf fynychu cynhadledd nodedig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, i nodi canfyddiadau’r 30 mlynedd o ymchwil yng Nghaerffili. Mae’r astudiaeth wedi arwain at fwy na 400 o bapurau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a nifer o ganfyddiadau pwysig. 
Hoffwn ganmol y cyfranogwyr, y tîm ymchwil ac yn benodol ei arweinydd clinigol, yr Athro Elwood. Wrth gwrs, mae’r astudiaeth a’i hallbynnau wedi bod yn bosibl dim ond drwy ymrwymiad y cyfranogwyr a chymorth eu gwragedd, eu partneriaid a’u teuluoedd. Roedd yn bleser arbennig cael cwrdd â rhai o aelodau carfan Caerffili yn y digwyddiad ac i nodi eu hymdrechion a’u cyfraniad at y gwersi i ni eu dysgu ac iechyd y cyhoedd yn ehangach. Mae llwyddiant Caerffili’n dangos yn glir pa mor bwysig yw bod pobl Cymru yn cymryd rhan mewn ymchwil, a’r manteision o wneud hynny. Gall gwybodaeth sy’n deillio o ymchwil wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd ac rwyf yn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn astudiaethau.

Yn ystod y trafodaethau ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, rwyf eisoes wedi tynnu sylw at yr angen am “gleifion darbodus” a “gweithwyr proffesiynol darbodus”. Mae canfyddiadau a thystiolaeth Caerffili yn dangos yn glir fanteision a phwysigrwydd “pobl ddarbodus” a’u hiechyd. Mae camau y gall deddfwyr a Gweinidogion eu cymryd drwy bwerau a pholisïau ar draws ystod eang o gymwyseddau; ond bydd newid parhaol yn dibynnu ar yr hyn sy’n digwydd mewn teuluoedd a chymunedau, yn fwyaf pwysig gyda phob un ohonom yng Nghymru yn cymryd perchnogaeth o’n hiechyd ein hunain ac yn mabwysiadu ymddygiadau iach a all wneud cymaint o wahaniaeth i’n hiechyd a’n lles.
Os yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol am oroesi a ffynnu, mae’n rhaid i ni gymryd agwedd o’r fath, yn y gwasanaeth iechyd a thu allan iddo. Diben y GIG yw ein helpu pan fydd angen, ond er mwyn i hynny ddigwydd mae angen i bawb ohonom ddangos cyfrifoldeb. Mae angen taro bargen newydd - mae angen i’r GIG ac eraill wneud popeth yn eu gallu i greu’r amodau lle gall pobl amddiffyn eu hiechyd - ond mae hefyd yn rhaid i bobl – unigolion, cymunedau a theuluoedd ledled Cymru – wynebu’r her. Gyda’n gilydd mae’n rhaid i ni achosi pob math o niwed y gallwn ni’n amlwg eu hosgoi.


Dolenni perthnasol:
Sefydliad Gofal Sylfaenol a Iechyd y Cyhoedd Prifysgol Caerdydd – yn cynnwys dolen i lyfryn Cynhadledd Caerffili sy’n gosod her bwysig i bobl Cymru: 
http://medicine.cf.ac.uk/news/benefit-healthy-lifestyle/