Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (NWTC) ar wella gwydnwch y cysylltiadau i ac o Ynys Môn, mae cynnydd da wedi cael ei wneud ac mae gwaith arfarnu wedi cael ei gynnal ar nifer o argymhellion blaenoriaeth uchel. Dyma'r diweddariadau allweddol:

Dargyfeirwyr gwynt ar Bont Britannia

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad y byddai gosod dargyfeirwyr gwynt yn effeithiol ac yn lleihau cyfyngiadau traffig ar y bont yn sylweddol. Disgwylir i osod y dargyfeirwyr hyn gynyddu capasiti gweithredol y bont drwy leihau'r angen i gau'r bont oherwydd y gwynt, a thrwy hynny leihau'r angen i ddibynnu ar Bont Menai pan fydd Pont Britannia ar gau.

Dywedodd rhanddeiliaid allweddol eu bod o blaid y cynigion, ac rwyf bellach wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â gwaith manwl pellach, gan gynnwys arolygon a dadansoddiadau strwythurol, asesiad effaith treftadaeth, a dyluniad manwl y dargyfeirwyr gwynt.

Alinio Priffyrdd, Rheoli Traffig a Chyflymder

Datblygwyd rhestr hir o opsiynau yn seiliedig ar y materion allweddol a nodwyd gan randdeiliaid, gyda'r nod o wella alinio priffyrdd, llif traffig, a rheoli cyflymder ar Bont Britannia a'i ffyrdd dynesu. Dangosodd dadansoddiad o'r opsiynau hyn y byddai cyflwyno terfynau cyflymder amrywiol yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar yr A55 o amgylch y bont yn effeithiol. Ar ben hynny, mae cyfuno uwchraddio cyfarpar rheoli traffig y bont bresennol â therfynau cyflymder amrywiol yn cynnig nifer o fanteision ychwanegol - fel amrediad gwell o negeseuon i ddefnyddwyr y bont, llai o risgiau i swyddogion traffig sy'n rheoli'r safle a gwell gwerth am arian drwy rannu costau gweithredu.

O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu ac uwchraddio cyfarparu rheoli traffig y bont ynghyd â system terfynau cyflymder amrywiol. Disgwylir i'r dull integredig hwn wella ymhellach reolaeth gyffredinol y llif traffig ac effeithlonrwydd wrth ymateb i ddigwyddiadau. Yn ogystal, bydd ymyriad uniongyrchol ar raddfa lai yn cael ei weithredu, sef marciau ac arwyddion ffyrdd newydd rhwng cylchfannau Cyffordd 9 i helpu i wella disgyblaeth lôn a rheoli traffig yn yr ardal honno.

System Llif Llanw Tair Lôn 

Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Gomisiwn Traffig Gogledd Cymru ar system llif llanw tair lôn ar Bont Britannia, mae canfyddiadau'r astudiaeth, sy'n seiliedig ar fodelu traffig a mewnbwn rhanddeiliaid, yn awgrymu y byddai lôn llif llanw ychwanegol yn sicrhau amseroedd teithio gwell, yn lleddfu tagfeydd traffig ac yn cynnig rhagor o wydnwch drwy ddarparu capasiti ychwanegol lle mae ei angen fwyaf. Byddai gweithredu system o'r fath yn gofyn am leihau terfyn cyflymder yr A55 i 30mya, a byddai'r tair lôn hefyd yn gulach nag sy'n safonol, gyda'r lôn ganol wedi'i chyfyngu i gerbydau ysgafn yn unig. 

Er bod rhanddeiliaid allweddol yn cydnabod y manteision posibl, nodwyd bod angen cryn waith pellach a mesurau lliniaru risg i sicrhau diogelwch a dibynadwyedd y system. Cafodd rhwystr symudol ffisegol ei ystyried yn fesur diogelwch, ond mae lled cyfyngedig y bont yn gwneud yr opsiwn hwn yn anymarferol. Bydd astudiaeth fanwl ac asesiad risg nawr yn cael eu cychwyn mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol i asesu diogelwch, addasrwydd ac ymarferoldeb system llif llanw tair lôn ar Bont Britannia.

Llwybr Teithio Llesol ar draws Pont Britannia

Cafodd opsiynau ar gyfer cyflwyno llwybr cerdded, beicio ac olwyna ar draws Pont Britannia eu hadolygu a'u datblygu. Roedd yr opsiynau hyn yn cynnwys llwybr ar lefel y rheilffordd, dyluniadau cantilifer ar lefel y ffordd a chulhau cerbytffordd yr A55, ond rydyn ni bellach wedi penderfynu na fyddai datblygu'r opsiynau hyn ymhellach yn hyfyw. Daethpwyd i'r casgliad hwn oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys costau amcangyfrifedig uchel sy'n arwain at werth isel am arian, y lefel isel o ddefnydd gan y cyhoedd a ragwelwyd ac adborth gan randdeiliaid. Felly, rwyf wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r opsiynau hyn.. 

Mesurau Blaenoriaeth Bysiau

Archwiliodd yr astudiaeth y potensial ar gyfer gwelliannau blaenoriaeth bysiau i wella cysylltedd a gwydnwch ar draws Afon Menai drwy fynd i'r afael â materion fel tagfeydd a gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol. Nodwyd rhestr gychwynnol o 28 o fesurau, a oedd yn cynnwys lonydd bysiau, gatiau bysiau, cyfyngiadau lôn a phwysau a llwybrau cerdded a beicio gwell. Rwyf bellach wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru barhau i fwrw ymlaen â'r ymyriadau â blaenoriaeth hyn ar gyfer bysiau a'u hymgorffori yn astudiaeth ehangach gyffredinol ar gyfer Gwella Seilwaith Bysiau Gogledd Cymru.

Rwyf wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu'r mesurau gwella gwydnwch hyn cyn gynted ag y bo modd, gan gydnabod yr angen am ymgysylltu a chydgysylltu agos â rhanddeiliaid allweddol er mwyn cael y cymeradwyaethau a'r cydsyniadau sydd eu hangen. Byddwn yn buddsoddi dros £1 miliwn dros y 2–3 blynedd nesaf ar gyfer y cynigion hyn.

Er nad ydyn ni wedi diystyru trydedd bont yn y dyfodol, credwn y gellir gwneud mwy yn y tymor byr i ganolig i wella gwydnwch Pont Britannia a'r cysylltiadau rhwng Ynys Môn a'r tir mawr.