Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r manylion diweddaraf am yr Astudiaeth o Ddiogelwch yr A44.

Yn dilyn y ddamwain drasig ar y ffordd hon yr haf diwethaf, addewais y byddwn yn edrych ar yr hyn y gellid ei wneud i wella diogelwch, yn enwedig rhwng Aberystwyth a Llangurig. Y darn hwn o ffordd unffrwd yw’r uchaf ei risg ar rwydwaith cefnffyrdd Cymru.

Mae damweiniau wedi digwydd  ar hyd y 40km cyfan o’r A44, gyda rhai clystyrau o ddamweiniau mewn mannau penodol. Byddai’n eithriadol o anodd a chostus  newid trywydd y ffordd hon oherwydd y tirwedd sydd o bobtu iddi. Mae angen inni ganolbwyntio ar wella’r ffordd bresennol felly.

Cymerwyd camau eisoes i wella’r mannau lle cafwyd clystyrau o ddamweiniau, ar droiadau Pantybenny, Milestone 15 a Chwmbrwyno.  Mae gwell marciau ffordd ac arwyddion ac arwyneb newydd wedi profi’n effiethiol yn y mannau hyn. Byddwn yn parhau i fonitro effaith y mesurau hyn ac yn ystyried eu hestyn ar hyd y ffordd i gyd.
  
Nododd yr Astudiaeth fannau eraill lle bu clystyrau o ddamweiniau, yn Sweet Lamb , Six Sycamores ac Allt-y-Gwreiddyn. Cynhelir ymchwiliadau pellach i’r damweiniau, yn ogystal ag astudiaethau ataliol, a rhoddir unrhyw argymhellion ar waith wedyn.

Mae adolygiad o’r cyfyngiadau cyflymder yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar draws y rhwydwaith cyfan o gefnffyrdd, gan gynnwys yr A44. Bwriedir cyhoeddi’r canlyniadau ym mis Ionawr. Byddwn yn addasu ein strategaeth i ystyried y canlyniad ac yn rhoi mesurau ategol ar wairh i wella diogelwch.

Yn ogystal â gwella peirianneg y ffordd, bydd angen inni orfodi ac addysgu hefyd. Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid ar ymgyrchoedd i hyrwyddo gwell ymddygiad gan ddefnyddwyr y ffyrdd.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi ymrwymo i’n cynorthwyo ni i leihau’r damweiniau angheuol ar y ffordd drwy gymryd camau gweithredu sy’n targedu grwpiau a lleoliadau risg uchel. Mae eu hymgyrch, sef Operation Darwen, yn cynnwys yr A44, ac mae wedi bod yn llwyddiannus dros ben yn newid ymddygiad gwrthgymdeithasol rhai beicwyr modur ac yn gorfodi lle’r oedd angen. Mae’r heddlu wedi cynyddu eu gweithgarwch ar yr ymgyrch hon mewn ymateb i nifer y gwrthdrawiadau rhwng cerbydau ar y ffordd eleni, ac mae mentrau eraill yn mynd i gael eu cyflwyno yn ystod cyfnodau o dywydd braf.

Bydd Heddlu Dyfed Powys yn defnyddio’r radio’r flwyddyn nesaf i ddarlledu eu neges ynghylch diogelwch ar y ffyrdd. Maen nhw eisioes wedi bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i atgyfnerthu’r neges i feicwyr modur sy’n gyrru’n beryglus.