Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am astudiaeth a gomisiynais y llynedd ynghylch opsiynau posibl i wella’r A40.

Rhannwyd yr astudiaeth yn ddwy ran.  Roedd y rhan gyntaf yn ystyried sefyllfa’r traffig, heddiw ac yn y dyfodol, opsiynau peirianyddol ar gyfer gwelliannau a chostau.  Roedd yr ail ran yn ystyried yr effeithiau economaidd ehangach i’r ardal pe bai’r A40 yn cael ei deuoli gan gynnwys ymgynghori gyda busnesau yn yr ardal.

Roedd yr astudiaeth yn ystyried yr effeithiau y byddai’r gwaith yn eu cael ar ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethau gan yr A40 fel Hwlffordd, Aberdaugleddau ac Abergwaun a’r A477 fel Doc Penfro a chyrchfannau twristiaeth ar hyd arfordir y de.

Daeth yr astudiaeth i nifer o ganlyniadau gan gynnwys y byddai deuoli’r A40 yn gallu creu elw economaidd positif yn yr hirdymor.

Yn sgil yr astudiaeth, gwelwyd bod yna achos cryf dros roi pecyn o fesurau ar waith ar yr A40, yn ogystal a chynllun Llanddewi Felffre i Benblewyn yr A40, er mwyn gwella’r traffig rhwng Sanclêr a Hwlffordd. 

Byddai’r mesurau’n cynnwys defnyddio’r cynllun 2+1 sydd ar hyn o bryd yn gweithio’n dda ar Ffordd Osgoi Robeston Wathen yr A40 a gwblhawyd yn ddiweddar a’r A477 yn Llanddowror.  Byddai modd cynnal y mesurau hyn yn y tymor byr i’r tymor canolig a byddan nhw’n cael eu datblygu er mwyn gallu mynd ymlaen â’r gwaith deuoli yn y dyfodol.

Rwy’n bwriadu bwrw ‘mlaen â chynllun Llanddewi Felffre i Benblewyn yr A40 cyn gynted â phosibl a phenodi Asiant Cyflogwr i ddatblygu pecyn ychwanegol o welliannau i’r A40.

Mae arian strwythurol o Ewrop yn cael ei roi naill ochr ar gyfer cynnal cynllun Llanddewi Felffre i Benblewyn.  Ar y cyd â’r Undeb Ewropeaidd, bydd y swyddogion yn archwilio pa mor ymarferol fyddai cyfraniadau ychwanegol o ffynonellau ariannol eraill i helpu i’r roi’r pecyn ychwanegol o fesurau ar waith.

Hefyd, daeth yr astudiaeth i’r casgliad mai dim ond ateb rhan o’r broblem ar yr A40 fyddai gwella’r mynediad i Ardal Fenter Dyfrffordd y Daugleddau a safle Murco.  Mae’r tagfeydd traffig yn Hwlffordd ac ar hyd yr A4076 hefyd yn broblem.  Felly, byddaf yn gweithio â Chyngor Sir Benfro i ystyried opsiynau ar gyfer gwneud gwelliannau yn yr ardal.

Byddaf yn sicrhau bod buddiannau’r cynigion a roddir ar waith yn cael eu gwerthuso’n llawn a bod y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i ddatblygu opsiynau pellach ar gyfer gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth ar hyd yr A40 a’r A477.