Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y prynhawn yma, cwrddais â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, Changhellor Dugiaeth Lancaster a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, i drafod gwybodaeth sy’n peri gofid am rywogaeth newydd o’r coronafeirws ym Mrasil. Mae hyn yn dilyn darganfyddiad amrywiolyn o’r feirws yn Ne Affrica yn gynharach. 

O ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, gallaf gadarnhau y byddwn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Cymru) i atal coridorau teithio, yn unol â'r camau tebyg sy'n cael eu cymryd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i helpu i atal yr amrywiolion newydd hyn o'r feirws rhag dod i mewn i'r DU. 

Daw'r newidiadau hyn i rym am 04:00 ddydd Llun 18 Ionawr tan o leiaf 15 Chwefror, ond maent yn debygol o fod mewn grym am fwy o amser.

I’r rhan fwyaf o deithwyr rhyngwladol, maent yn golygu y bydd angen iddynt gwblhau prawf cyn ymadael, a hunan ynysu am 10 diwrnod ar ôl dychwelyd i Gymru i sicrhau nad ydynt wedi dod â choronafeirws adref gyda nhw.

Byddwn hefyd yn cwtogi’r rhestr o bobl sydd wedi'u heithrio o'r gofynion hyn, yn unol â newidiadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yr wyf yn falch fy mod wedi gallu gweithio ar sail pedair gwlad i gytuno ar y newidiadau hyn.