Neidio i'r prif gynnwy

Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n cydnabod yr effaith ddofn a hirhoedlog y mae marwolaeth drwy hunanladdiad yn ei chael ar deuluoedd, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Fel llywodraeth newydd, rydym wedi ymrwymo i wneud cynnydd ystyrlon o ran lleihau marwolaethau drwy hunanladdiad yng Nghymru, ac i sicrhau bod pobl sy'n cael eu heffeithio yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. 

Mae'n hanfodol bod ein dull gweithredu yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf cadarn sydd ar gael, fel bod y camau gweithredu a gymerwn yn effeithiol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, rwy'n croesawu adroddiad blynyddol cyntaf y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i'w gyhoeddi ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, sef 10 Medi. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £2m yn y Ganolfan Genedlaethol drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a'r Samariaid, mae rôl y Ganolfan Genedlaethol yn hanfodol. Mae'n storfa ganolog ar gyfer data a thystiolaeth ar hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru. Mae'n dwyn ynghyd ymchwil academaidd, systemau gwyliadwriaeth sefydledig ac, yn hollbwysig, safbwyntiau pobl sydd â phrofiad bywyd. 

Bydd y gwaith hwn yn cryfhau'r seilwaith data a'r prosesau rhannu gwybodaeth sy'n angenrheidiol i lywio deddfwriaeth, polisi a'r gwaith o gynllunio gwasanaethau yng Nghymru. Bydd yr adroddiad blynyddol yn rhoi trosolwg o'r data a'r dystiolaeth yng Nghymru mewn perthynas â hunanladdiad a hunan-niweidio, ac yn rhannu negeseuon allweddol a chyngor â Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, bydd yn darparu crynodeb o gynnydd y Ganolfan Genedlaethol yn erbyn ei hymrwymiadau yn y Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio: Cynllun Cyflawni 2025 i 2028.

Mae adroddiad y Ganolfan Genedlaethol yn ei gwneud yn glir bod atal hunanladdiad yn gyfrifoldeb a rennir, sy'n gofyn am gydlynu'r camau gweithredu ar draws y llywodraeth a chydweithredu â phartneriaid mewn sawl sector. Byddaf yn gweithio'n agos gyda fy nghydweithwyr gweinidogol, gan wrando ar y dystiolaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn cryfhau'r gwaith i atal hunanladdiad. Rwy'n arbennig o bryderus am effeithiau seiberfwlio, ac rwy'n awyddus i ddeall yn well ddylanwad ehangach y cyfryngau cymdeithasol ar blant a phobl ifanc. Rwyf wedi gofyn i'r materion hyn gael eu hystyried yn benodol yn yr adroddiad blynyddol nesaf, er mwyn sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth fwy cadarn.

Gwyddom o'r dystiolaeth y gall risgiau hunanladdiad gael effaith anghymesur ar grwpiau a demograffeg benodol. Mae dynion, a phobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn wynebu risg anghymesur o farw drwy hunanladdiad. Mae gwaith y Ganolfan Genedlaethol yn hanfodol wrth wella ein dealltwriaeth o faterion sy'n cynyddu'r risg o hunanladdiad, ac wrth lywio ein dull gweithredu ataliol. 

Mae ein Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, a'r cynllun cyflawni sy'n cyd-fynd â hi, yn canolbwyntio'n benodol ar sut i gael gwell dealltwriaeth o'r materion hynny a all arwain at bobl yn cymryd eu bywydau eu hunain, a sut i fynd i'r afael â'r rhain yn well. Yn 2024, cofrestrwyd 436 o farwolaethau drwy hunanladdiad yng Nghymru, 337 ohonynt yn ddynion. Mae'r ffigurau hyn yn ein hatgoffa'n glir bod ein gwaith yn fater o frys. 

Mae ein Strategaeth a'n cynllun cyflawni yn cydnabod bod profiadau, anghenion a heriau pobl yn wahanol, a bod rhaid i'n hymateb adlewyrchu hyn. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu system sy'n ymatebol ac yn dosturiol, ac sy'n gallu darparu cymorth amserol. Byddwn yn parhau i ystyried y ffactorau sy'n effeithio ar wahanol grwpiau, yn enwedig dynion, a sut orau i gyrraedd a chefnogi'r rhai sydd mewn perygl.

Trwy ddull gweithredu tosturiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer newid ystyrlon a pharhaol. 

Mae adroddiad blynyddol y Ganolfan Genedlaethol yn gam cyntaf pwysig. Mae'n rhoi inni'r data a'r dystiolaeth sydd eu hangen arnom i gyflawni ein hymrwymiad i sicrhau gostyngiad blynyddol yn nifer a chyfraddau'r hunanladdiadau, ac yn nifer y bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad, fel y nodir yn ein Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ar gyfer Cymru.