Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae pwysigrwydd atal salwch yn cael ei gydnabod yn eang a dyma un o werthoedd craidd ein strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru: ‌Cymru Iachach. Yn anffodus, mae gormod o bobl yn marw'n rhy gynnar o gyflyrau a chlefydau y gellid eu hatal. Ac mae gormod o flynyddoedd o ddisgwyliad oes iach yn cael eu colli i glefyd ac anabledd. 

Mae atal salwch yn bwysicach nag erioed wrth i ni wynebu'r posibilrwydd o newid demograffig a, gyda hynny, bod nifer cynyddol o bobl yn byw gyda phroblemau iechyd gydol oes a phroblemau sy'n cyfyngu ar fywyd, a fydd yn rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal.

Mae hwn yn flaenoriaeth allweddol yn fframwaith cynllunio'r GIG ar gyfer 2025-28 a bydd yn cael ei atgyfnerthu yn y camau blaenoriaeth y byddaf yn eu cyflwyno i gadeiryddion a phrif weithredwyr y GIG i wella mynediad at wasanaethau, darparu gwell gofal a helpu i baratoi'r gwasanaeth iechyd ar gyfer yr heriau sydd i ddod.

Er mwyn cefnogi ein hymdrechion i ddod yn genedl sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant da, byddwn yn gweithio gyda Sefydliad Tegwch Iechyd Syr Michael Marmot i ddod yn Genedl Marmot. Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu gweithio gyda nifer o gymunedau ar draws Cymru i leihau anghydraddoldebau iechyd gan ddefnyddio egwyddorion Marmot, fel y mae Torfaen wedi'i wneud mor llwyddiannus ers i Gwent ddod yn rhanbarth Marmot. 

Byddaf yn gosod rheoliadau yn yr hydref i orfodi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio asesiadau o'r effaith ar iechyd mewn rhai amgylchiadau, gan gryfhau ein dull ‘iechyd ym mhob pholisi’.   Nid gwaith y GIG yn unig yw atal salwch. Rhaid iddo fod yn ganolog i'n holl wasanaethau. Mae'r pethau sy'n arwain at iechyd da yn cynnwys cael digon o arian yn ein pocedi, gwaith teg, addysg dda, a chartref diogel a chynnes. 

Mae ein hamgylchedd o ddydd i ddydd a'n perthnasoedd cymdeithasol wrth dyfu i fyny yr un mor bwysig i iechyd â lleihau rhai o'r ffactorau risg mawr sy'n gysylltiedig â chyflyrau iechyd a chlefydau hirdymor – smygu, alcohol, deiet sy'n uchel mewn braster, siwgr a halen a diffyg ymarfer corff. 

Smygu a gordewdra yw'r ddau brif achos o farwolaeth gynamserol a salwch y gellir ei atal yng Nghymru. 

Mae lefelau gordewdra yng Nghymru wedi bod yn cynyddu'n gyson dros sawl blwyddyn, a gwyddom o dystiolaeth ryngwladol bod gwyrdroi'r gromlin gordewdra ar lefel poblogaeth gyfan yn dasg enfawr. 

Gwyddom y gall targedu camau gweithredu ac adnoddau ar ddechrau bywyd, tuag at blant a phobl ifanc, trwy ddull system gyfan ar lefel genedlaethol a chymunedol, arwain at ganlyniadau gwirioneddol sy'n para am oes. Byddaf yn cyhoeddi’r cynllun cyflawni Pwysau Iach Cymru Iach newydd cyn toriad yr haf, a bydd y cynllun hwn yn canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar. 

Ond bydd camau gweithredu drwy gydol oes hefyd. Er enghraifft, rwyf wedi cytuno i roi mwy na £200,000 i gefnogi rhaglen 12 wythnos FIT FANS Cymdeithas Bêl-droed Cymru eleni i helpu dynion a menywod rhwng 35 a 65 oed i fyw yn iach a cholli pwysau. 

Yr wythnos hon, mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Diabetes. Heddiw, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad gwerthuso sy'n dangos sut y gall cymorth ataliol leihau'r risg y bydd pobl â symptomau cyn-ddiabetes yn datblygu diabetes math 2. 

Mae gweithwyr cymorth gofal iechyd hyfforddedig, dan oruchwyliaeth dietegwyr, yn gweithio gyda phobl sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 i wneud newidiadau i'w diet a'u helpu i fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Rwyf wedi cytuno ar gyllid i barhau â'r rhaglen hon eleni fel y gellir prif ffrydio'r dull gweithredu, a sicrhau bod mwy o bobl yn elwa.  

Rydym wedi gwneud cynnydd mawr o ran lleihau cyfraddau smygu, o 23% yn 2010 i 13% heddiw. Ond gydag un o bob 10 o farwolaethau yn gysylltiedig â smygu, mae'n rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol wrth leihau lefelau smygu gan y bydd hyn yn helpu i achub bywydau a lleihau nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ganser a salwch eraill sy'n gysylltiedig â smygu bob blwyddyn. 

Mae gan Fil Tybaco a Fêps y DU y potensial i drawsnewid ein perthynas â smygu yn radical trwy greu'r genhedlaeth wirioneddol ddi-fwg gyntaf gan y bydd yn gwahardd gwerthu tybaco i bobl a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 yn ogystal â rheoleiddio gwerthu fêps i’r rhai o dan 18 oed. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y Bil hwn, ac rydym yn cefnogi ei nodau yn gryf. Bydd cyfle i Aelodau drafod cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn fuan.

Canser yr ysgyfaint yw'r trydydd math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, ond dyma'r math o ganser sy’n lladd y rhan fwyaf o bobl o bell ffordd. Mae hefyd yn un o’r mathau o ganser sydd â'r anghydraddoldebau mwyaf yn ôl rhyw, yn ôl oedran ac yn ôl amddifadedd. Ddwy flynedd yn ôl, dechreuon ni sgrinio am ganser yr ysgyfaint yn ardal gogledd y Rhondda. Cynhaliwyd chwe chant o sganiau sgrinio, a arweiniodd at 12 diagnosis o ganser yr ysgyfaint. Cafodd dwy ran o dair o'r rhain eu canfod yn gynnar. Rwy'n adolygu cyngor yn seiliedig ar adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y model arfaethedig ar gyfer rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer yr ysgyfaint a byddaf yn gwneud penderfyniad ynglŷn â'r ffordd ymlaen cyn toriad yr haf. 

Byddwn yn cyflwyno rhai newidiadau i'r rhaglen imiwneiddio i blant eleni, sydd wedi'u cynllunio i gynyddu amddiffyniad. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r ail ddos o'r brechlyn meningococol B i fabanod 12 wythnos oed yn hytrach na 16 wythnos oed i’w hamddiffyn rhag heintiau bacterol a all arwain at afiechyd difrifol fel meningitis a gwenwyn gwaed. Gyda gwledydd eraill y DU, ni hefyd fydd y gwledydd cyntaf yn y byd i gyflwyno rhaglen frechu wedi'i thargedu i oedolion ar gyfer gonorea, o'r mis nesaf. 

Mae’r gwaith eleni yn canolbwyntio ar frechu teg, a chynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar frechlynnau, gan gynnwys ffocws ar y brechlyn HPV, sy'n lleihau cyfraddau canser ceg y groth yn llwyddiannus. Rydym hefyd yn gweithio i gynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar y brechlyn RSV i osgoi salwch difrifol a lleihau'r angen i dderbyn unigolion i'r ysbyty. 

Bydd Prif Swyddog Meddygol newydd Cymru, yr Athro Isabel Oliver, yn chwarae rhan allweddol o ran cynghori'r Cabinet yn ein gwaith i atal salwch. Mae hi wedi sefydlu grŵp cynghori i fwrw ymlaen â'r gwaith ar atal a lleihau anghydraddoldebau iechyd.