Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i faterion yn ymwneud â chanser gynaecolegol, ymrwymais i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd targedau ar gyfer brechu HPV, sgrinio ceg y groth, a thrin canser ceg y groth.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi gosod targed o 90% ar gyfer y ganran sy'n cael eu brechu yn erbyn HPV. Cyn y pandemig, roedd y ganran a oedd yn manteisio ar y cynnig i gael brechiad HPV - sy'n helpu i atal amrywiaeth o ganserau, gan gynnwys canser ceg y groth, a defaid gwenerol - yn agos at y targed hwn. Fodd bynnag, mae'r nifer wedi gostwng ar ôl y pandemig.
Mae timau brechu'r byrddau iechyd wedi gwneud ymdrech sylweddol i gynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar y brechiad, gan gynnwys targedu ysgolion lle mae lefel y sylw yn is - rhoddwyd dros 1,400 o frechlynnau HPV ychwanegol yn 2025. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu arolwg i bobl ifanc a'u rhieni er mwyn clywed eu barn am frechiadau a'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag mynychu apwyntiadau arferol. Mae hefyd wedi datblygu cynllun cyfathrebu cynhwysfawr sy'n tynnu sylw at fanteision brechu yn erbyn HPV. Bwriedir cynnal rhagor o ymarferion dal i fyny yn yr ysgol yn ystod y 12 mis nesaf.
Mae sgrinio ceg y groth, sy'n chwilio am fathau risg uchel o HPV, yn ymyriad ataliol pwysig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am ffyrdd o gynyddu'r defnydd o'r rhaglenni sgrinio cenedlaethol, yn enwedig gan grwpiau lle mae'r defnydd yn isel. Trwy ei Strategaeth Tegwch Sgrinio, mae'n gweithio i leihau anghydraddoldebau sgrinio trwy sicrhau bod y rhai sy'n gymwys i gael eu sgrinio yn cael mynediad cyfartal a'r cyfle i fanteisio ar gynnig sgrinio.
Ar hyn o bryd mae Sgrinio Serfigol Cymru yn ystyried y model ar gyfer samplau sgrinio a gesglir gartref gan yr unigolyn. Bydd y system hon yn cael ei chyflwyno yn nes ymlaen eleni, a bydd yn cael ei hanelu at fenywod nad ydynt yn aml yn manteisio ar eu cynnig sgrinio, neu nad ydynt byth yn gwneud hynny.
Nod y system sgrinio gartref yw lleihau'r rhwystrau i gymryd rhan, a galluogi'r rheini sy'n ei chael yn anodd manteisio ar gyfleoedd sgrinio ar hyn o bryd i ymgysylltu â'r rhaglen. Y gobaith yw y bydd yn cynyddu'r niferoedd mewn grwpiau lle nad yw'r lefelau sgrinio'n ddigonol, gan leihau anghydraddoldebau a helpu i symud tuag at gyflawni targedau dileu canser ceg y groth Sefydliad Iechyd y Byd, trwy gynyddu'r sylw a roddir i sgrinio ceg y groth.
Mae'r ffigurau diweddaraf am achosion a marwolaethau canser ceg y groth yn dangos bod y cyfuniad o sgrinio ac ymwybyddiaeth yn helpu i leihau nifer yr achosion newydd, o gyfartaledd o 164 y flwyddyn yn 2002-04 i gyfartaledd o 149 yn 2020-22. Mae'r gyfradd achosion hefyd wedi gostwng o 10.8 i 9.4 fesul 100,000 o bobl.
Mae nifer y marwolaethau'r flwyddyn wedi gostwng o 61 (2002-04) i 54 (2002-22) ar gyfartaledd, ac mae'r gyfradd marwolaethau safonedig yn ôl oedran Ewropeaidd, fesul 100,000 o bobl, wedi gostwng o 4.1 i 3.2 dros yr un cyfnod. Mae'r ffigurau hyn yn dangos gwelliant hirdymor yn nifer yr achosion a'r marwolaethau canser ceg y groth, er bod rhagor i'w wneud o hyd, a'n gobaith yw y bydd brechu yn atal mwy o achosion o ganser ceg y groth yn y dyfodol.
Mae canser ceg y groth yn cael ei gategoreiddio fel canser gynaecolegol at ddibenion adrodd ar nifer y menywod sy'n dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 o ddiwrnodau. Fodd bynnag, mae'r GIG yn gweithio tuag at adrodd ar berfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod ar gyfer y gwahanol fathau o ganserau gynaecolegol erbyn mis Ebrill 2027. Bydd y GIG yn defnyddio'r 12 mis nesaf i newid systemau clinigol i alluogi byrddau iechyd i gasglu data cywir am is-fathau o ganser ar gyfer llwybrau gofal sydd wedi'u cwblhau.
Mae ein dull gweithredu ar gyfer gwella triniaeth a'r cyfraddau goroesi yn cynnwys set gynhwysfawr o gamau gweithredu, gan gynnwys atal, canfod yn gynnar, a mynediad amserol at driniaeth o ansawdd uchel.
Rydym yn annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar eu cynnig i gael brechiad HPV neu sgrinio ceg y groth. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd parhau i wella mynediad at driniaeth, brechu, a sgrinio yn gwella canlyniadau i fenywod ledled Cymru.
