Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 12 Mawrth pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gydsynio i Fil Masnach y DU.  Mae rhai o'r darpariaethau o fewn y Bil Masnach yn gysylltiedig â sefydlu yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach, corff newydd hyd braich fydd yn archwilio cwynion am arferion masnachu annheg a chynnydd na ragwelwyd mewn mewnforion a allai niwedio diwydiant y DU. Er nad yw materion sy'n gysylltiedig a'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach o fewn cymhwysedd Cynulliad Cymru, cytunais i roi diweddariad i aelodau'r Awdurdod a sut y bydd yn gweithredu unwaith y caiff ei sefydlu.

Ar hyn o bryd mae cwynion am arferion masnach annheg neu gynnydd na ragwelwyd o ran mewnforio yn cael eu harchwilio gan y Comisiwn Ewropeaidd (Masnach y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol), a chaiff unrhyw fesurau i unioni masnach gael eu defnyddio ar lefel yr UE yn gyfan. Bydd yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach mewn ffordd yn cymryd y rôl hon ledled y DU, gan weithredu fel corff cyhoeddus anadrannol, gan archwilio cwynion a gwneud argymhellion ble y bo angen rhagor o weithredu.

Gan y bydd yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn gweithredu fel corff annibynnol mae cyfyngu ar faint o gyfraniad y gall Llywodraeth Cymru ddisgwyl ei gael o ran ei redeg. Fodd bynnag, bwriad yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yw gweithredu er lles y DU yn gyfan, a rydym wedi derbyn nifer o ymrwymiadau anneddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru ar sut y byddwn yn gallu gweithio gyda'r Awdurdod a sut y gall gweinyddiaethau datganoledig fod yn rhan o'r broses archwilio.

Yn bwysicaf oll byddwn yn gallu gweithredu fel cyfranwyr mewn unrhyw achosion y mae'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn eu gweithredu. Bydd hyn yn caniatáu inni fod yn ymwybodol o unrhyw gamau y mae'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn ei wneud. Ar y cyfan, rwyf yn falch iawn o'r cynnydd sydd wedi'i wneud a'r ymrwymiadau sydd wedi'u gwneud gan Lywodraeth y DU. Mae canlyniad yr ymrwymiadau hyn i'w gweld isod:

  • Bydd yr Adran Masnach Ryngwladol yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru pan fydd archwiliad yn cael ei hagor gan yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cofrestru ein diddordeb gyda'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach a bod yn gyfrannwr.
  • Fel cyfrannwr, bydd Llywodraeth Cymru yn cael eu gwahodd i gyflwyno'r wybodaeth berthnasol y bydd yn ofynnol i'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach ei ystyried.
  • Fel cyfrannwr, bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei hysbysu o unrhyw gamau y mae'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach wedi'i gymryd.
  • Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch argymhellion yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach ac ar yr un pryd â'r ymgynghori ag adrannau y llywodraeth a gall Llywodraeth Cymru gynnig sylwadau ar gwestiynau am fuddiannau'r cyhoedd i'r Ysgrifennydd Gwladol, ar yr un pryd ag adrannau Llywodraeth y DU.
  • Bydd adroddiad blynyddol yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru unwaith y daw i law Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Masnach Ryngwladol fel y gellir ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar yr un pryd ag y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ei osod gerbron y Senedd.
  • Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am awgrymiadau gan Lywodraeth Cymru ar y ffordd orau o recriwtio aelodau an-weithredol gyda sgiliau ac arbenigedd am wybodaeth berthnasol.

Y dull o sefydlu yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yw Bil Masnach y DU. Os na fydd y Bil Masnach wedi cael ei basio erbyn yr amser y byddwn yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae'r Adran Masnach Ryngwladol wedi sefydlu cyfres o fesurau wrth gefn, fydd yn sicrhau bod system unioni masnach lawn wedi'i sefydlu, hyd at y pwynt y bydd yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn cael ei sefydlu'n ffurfiol ac y gall gymryd y swyddogaeth hon drosodd.