Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddais fy mod yn edrych ar gyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn cael ei ystyried yn hen-ffasiwn fwyfwy ac yn foesol annerbyniol. Er nad oes syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt yng Nghymru, maent yn ymweld yn rheolaidd a bob tro y maent yn gwneud hynny mae'r galwadau i wahardd yr arfer yn codi eto.

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Cymru) sy'n anelu at fynd i'r afael â'r pryderon moesol hyn drwy wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.

Nid wyf yn credu y dylai anifeiliaid gael eu hystyried yn wrthrychau neu fel pethau i'n difyrru, yn hytrach, maent yn fodau all deimlo gyda'u hanghenion eu hunain. Rwyf am i blant a phobl ifanc yng Nghymru barchu ac ymddwyn yn gyfrifol tuag at anifeiliaid, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn eu safbwyntiau ar ein cynigion.

Bydd yr ymgynghoriad wyth wythnos yn dod i ben ar  26 Tachwedd 2018.

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:  https://beta.llyw.cymru/ymgyngoriadau