Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae’n bleser gen i adrodd fod cyfanswm y buddsoddiad yng Nghymru gan Fanc Datblygu Cymru bellach yn fwy nag £1 biliwn, ac mae wedi creu neu ddiogelu dros 50,000 o swyddi ers iddo gael ei greu yn 2017.
Mae'r garreg filltir o £1 biliwn o fuddsoddiad yn llwyddiant arwyddocaol sy'n dangos sut y gall Cymru greu sefydliadau cryf a chredadwy sy'n gallu cael effaith a chyrhaeddiad gwirioneddol, a hynny drwy gefnogaeth gyson ac ymrwymiad i broffesiynoldeb.
Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru fel buddsoddwr effaith gymdeithasol a ysgogir gan fasnach, gan helpu busnesau i gael gafael ar y cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddatblygu a thyfu. Ochr yn ochr â benthyciadau ac ecwiti i fusnesau Cymru, mae gwaith y Banc hefyd yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru gan gynnwys pontio i economi carbon isel, datblygu cartrefi newydd ac eiddo masnachol, a chyflawni prosiectau seilwaith allweddol.
Mae bron i 5,000 o fusnesau wedi elwa gan gymorth y Banc Datblygu ers 2017. Mae hyn yn cynnwys mwy na 780 o fusnesau newydd, gan helpu entrepreneuriaid Cymru i ddechrau busnesau a’u datblygu, ledled Cymru gyfan.
Mae ymchwil annibynnol yn dangos bod y Banc yn bartner dibynadwy i filoedd o fusnesau ac unigolion. Mae'n sefydliad gwerthfawr ac uchel ei barch ym maes cyllid, gyda dros 70% o fusnesau bach a chanolig yn ymwybodol o'r brand. Mae gan y Banc Sgôr Hyrwyddwr Net o 90, llawer mwy na'r meincnod ar gyfer y sector gwasanaethau ariannol, sy'n dangos lefelau uchel o fodlonrwydd cwsmeriaid.
Mae tua 5% o'r bobl sy'n gweithio mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru ar hyn o bryd yn gweithio mewn busnesau sy'n cael eu hariannu gan Fanc Datblygu Cymru. Mae cyllid gan y Banc wedi helpu i greu a diogelu mwy na 50,000 o swyddi ers 2017. Caiff bron i 90% o'r trosiant a gefnogir gan y Banc ei gynhyrchu gan fusnesau y tu allan i Gaerdydd, gan adlewyrchu'r ystod eang o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a phresenoldeb y Banc Datblygu ledled Cymru.
Ers ei lansio yn 2017, mae Banc Datblygu Cymru wedi gwneud buddsoddiadau ecwiti o dros £138 miliwn – gan gyflawni’n hymrwymiad i gynyddu’r defnydd o gyfrannau ecwiti mewn cymorth busnes. Mae’r cyfalaf tymor estynedig hwn wedi ysgogi twf sylweddol a chyflym i fusnesau arloesol. Mae data o’r Banc Datblygu yn dangos bod cyllid ecwiti yn gyson yn creu mwy o swyddi mewn rolau â thâl canolig ac uchel.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi mewn eiddo masnachol a phreswyl drwy'r Banc Datblygu. Mae'r Banc Datblygu yn gallu cynnig cyllid datblygu eiddo ar gyfer datblygiadau eiddo preswyl, defnydd cymysg a masnachol, sy’n darparu tai a seilwaith y mae mawr eu hangen. Mae cyllid o rhwng £150,000 a £10 miliwn ar gael o ystod o gronfeydd gan gynnwys Cronfa Eiddo Masnachol Cymru, Cronfa Eiddo Preswyl Cymru a'r Cymhelliant Datblygu Gwyrdd. Hyd yn hyn mae'r Banc wedi buddsoddi bron i £300 miliwn ym marchnad eiddo Cymru drwy gronfeydd eiddo preswyl a masnachol - gan sicrhau bod dros 2,300 o gartrefi yn cael eu hadeiladu a bod dros 230,000 troedfedd sgwâr o ofod diwydiannol a swyddfa yn cael ei ddatblygu.
Mae'r Banc Datblygu yn elwa o lywodraethu cryf a sefydlog, ac mae hygrededd y banc yn cael ei adlewyrchu yng nghryfder y Bwrdd. Mae'r Cadeirydd presennol, y Grŵp-gapten Anrhydeddus Sally Bridgeland FIA, yn meddu ar brofiad gweithredol, cynghorol ac anweithredol o’r meysydd pensiynau a buddsoddi preifat a chyhoeddus, a hynny ym mhob rhan o’r DU. O dan ei harweinyddiaeth mae’r Banc yn elwa o Fwrdd sy’n dwyn ynghyd arbenigedd mewn cyfalaf menter, bancio, entrepreneuriaeth, llywodraethiant, economeg a'r amgylchedd rheoleiddiol sy’n darparu her gref a gwydn i’r sefydliad.
Mae'r Banc Datblygu wedi elwa o broses adolygu a herio adeiladol gan waith craffu’r Senedd. Bydd yr ymgysylltiad hwn yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y Banc, fel un o'n sefydliadau arweiniol, yn parhau i ddysgu a thyfu wrth iddo anelu at weithredu i'r safonau uchaf a ddisgwylir gan bobl yng Nghymru.
Mae cyrraedd y garreg filltir fuddsoddi o £1 biliwn yn hollbwysig wrth i'r banc weithio tuag at dwf, cyrhaeddiad ac effaith bellach. Mae tystiolaeth yn dangos bod y sylfeini a osodwyd gan y Banc dros yr wyth mlynedd diwethaf yn gryf. Er y bydd y cyd-destun y mae'r Banc yn gweithio oddi mewn iddo yn parhau i esblygu, rwyf yn hyderus y bydd gallu amlwg y Banc o ran ystwythder ac addasrwydd yn ei alluogi i lywio tua'r dyfodol yn llwyddiannus.
Rhaid i Gymru fod yn wlad lle ceir cyfleoedd sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau, ac mae'r garreg filltir fuddsoddi o £1 biliwn yn dangos yn glir sut rydym yn gweithredu ac yn cyflawni ar yr uchelgais hon.
