Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddeunaw mis ar ôl llofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae cynnydd da i'w weld yn y gwaith o ddatblygu amrywiol brosiectau o fewn y rhaglen gyffredinol.

Mae Llywodraethau Cymru a'r DU, wrth ochr Partneriaeth y Fargen, nawr wedi penderfynu cynnal adolygiad annibynnol cyflym a fydd yn sylfaen i'r cam nesaf.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar y cynnydd hyd yma, ac yn rhoi sicrwydd i bartneriaid y bydd pob elfen o'r Fargen yn cyflawni manteision economaidd llawn y rhaglen uchelgeisiol hon.

Bydd argymhellion yr adolygiad yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch rhyddhau cyllid y llywodraeth, yn ogystal â rhoi'r hyder mwyaf i fuddsoddwyr preifat posib ar draws y Fargen yn gyfan.

Mae pob un o'r partneriaid wedi ymrwymo o hyd i sicrhau llwyddiant y Fargen, ac fe gytunwyd y bydd gwaith ar brosiectau unigol yn parhau wrth ochr yr adolygiad.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar ddiwydrwydd dyladwy a llywodraethiant mewn perthynas â phob elfen o'r Fargen a'r ffordd mae'n cael ei rhoi ar waith. Bydd yn sicrhau bod yr oruchwyliaeth a'r gydymffurfiaeth yn gadarn ar lefel rhaglen a phrosiect ac yn gwneud argymhellion, fel y bo'n briodol, lle gellid cryfhau hyn yn y dyfodol.