Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae cefnogi mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith a chryfhau adferiad yr economi yng Nghymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn unol â hyn rwyf wedi bod yn trafod rhagolygon ar gyfer Bargen Ddinesig i Gymru gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU dros gyfnod estynedig, ac roeddwn yn falch bod y Canghellor wedi cyhoeddi ym mis Mawrth y byddai Llywodraeth y DU yn agor trafodaethau ynghylch Bargen Ddinesig i Gaerdydd a’r ardal o’i chwmpas.

Gan adeiladu ar fy nghysylltiad cynnar â Chyngor Dinas Caerdydd, mae trafodaethau wedi bod yn digwydd yn barhaus i ddatblygu’r cynnig ymhellach. Yn ganolog i sicrhau Bargen Ddinesig yn llwyddiannus yn y dyfodol bydd cydweithrediad a phartneriaethau agos rhwng holl awdurdodau lleol y De-ddwyrain ac rwy’n croesawu’r newyddion heddiw bod y deg Awdurdod wedi cytuno’n ffurfiol i fynd ati i helpu i sicrhau Bargen Ddinesig i’r Brifddinas-ranbarth. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein huchelgais am Fargen Ddinesig i Gymru a gall gwaith nawr gychwyn o ddifrif ar archwilio a datblygu achos busnes manwl potensial.

Yn ystod yr haf, rwy’n cyfarfod â Gweinidogion Cyllid a Seilwaith Llywodraeth yr Alban i ganfod beth yw telerau’r Fargen Ddinesig arfaethedig yn Aberdeen ac Inverness, yn ogystal ag edrych ar y Fargen Ddinesig i Glasgow y cytunwyd arni y llynedd. Ar ddechrau mis Medi byddaf yn cyfarfod ag Arglwydd O’Neill, Ysgrifennydd Masnachol i’r Trysorlys, i drafod buddsoddi mewn seilwaith, gan gynnwys cynigion ar gyfer y Fargen Ddinesig. Byddaf hefyd yn gofyn am eglurhad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, y Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y disgwyliadau o ran amserlen ar gyfer cynnig.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar gynnydd yn yr Hydref.  

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.