Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu swyddi a sbarduno twf cynaliadwy, gwyrdd i sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn fwy ffyniannus ac i helpu gyda chostau byw. Heddiw, rwy'n lansio Bargen y Sector Ynni Adnewyddadwy i Gymru, a fydd nid yn unig yn helpu i gyflawni'r twf hwnnw ond hefyd yn cryfhau ein diogeledd ynni yn y dyfodol.

Mae cyflawni ein huchelgais i gynhyrchu yr hyn sy'n cyfateb i 100% o ddefnydd blynyddol o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, gan gynnwys cynnydd tuag at sicrhau bod o leiaf 1.5 gigawat o gapasiti ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol erbyn 2035 yn ganolog i Fargen y Sector.  Yr un mor bwysig yw ein hymrwymiad i sicrhau bod manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol defnyddio ynni adnewyddadwy yn cael eu cadw yng Nghymru drwy gadwyni cyflenwi cryfach, llwybrau sgiliau newydd, swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd gwell ar gyfer rhanberchnogaeth a rhaglenni budd cymunedol.

Mae ein targedau yn heriol o ran graddfa ac uchelgais, gan fynd y tu hwnt i ffocws ar un dechnoleg i ysgogi trawsnewidiad system gyfan. Mae Bargen y Sector yn ffurfioli partneriaeth  strategol newydd, gan ddod â chynrychiolwyr o bob sector at ei gilydd ac yn darparu fframwaith clir lle y gellir cymryd camau ar gyflymder, gan sicrhau bod manteision economaidd a chymdeithasol defnyddio ynni adnewyddadwy yn cael eu cadw yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ynni Adnewyddadwy am eu cydweithrediad wrth ddatblygu Bargen y Sector Ynni Adnewyddadwy i Gymru.

Mae Bargen y Sector yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol yr ydym eisoes wedi'i wneud i gyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy. Rydym wedi cryfhau ein capasiti cynllunio a chydsynio ac wedi sefydlu llwybr cydsynio integredig drwy Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024. Mae gwaith cynllunio grid ac ynni strategol yn mynd rhagddo drwy'r Cynllun Ynni Gofodol Strategol (SSEP) a chyfraniad Cymru i'r Cynllun Rhwydwaith Strategol Canolog, gyda chymorth gwell tystiolaeth amgylcheddol, offer digidol fel MapData Cymru a gwaith cynnar i sicrhau bod buddsoddiad grid yn y dyfodol yn cyd-fynd â chynlluniau ynni rhanbarthol a lleol. Mae porthladdoedd, mapio'r gadwyn gyflenwi a rhaglenni ynni morol hefyd yn helpu i baratoi'r diwydiant ar gyfer y don nesaf o waith datblygu ynni'r llanw, ynni gwynt arnofiol ar y môr ac ynni gwynt ar y tir.

Mae llwyddiannau Cymru yn y Rownd Dyrannu Contractau ar gyfer Gwahaniaeth diweddar wedi dangos bod ein dulliau gweithredu yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol, gan sicrhau'r canlyniadau gorau eto ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Sicrhaodd Cymru ddau brosiect gwynt ar y môr yn ogystal â phum prosiect gwynt ar y tir, deuddeg prosiect solar a thri phrosiect ynni'r llanw, gan dderbyn gwarant gontractiol am bris y trydan y maent yn ei gynhyrchu, gan olygu bod y gwaith yn gallu mynd rhagddo. Sicrhaodd Cymru 99.65% o'r holl gyllid llanw sydd ar gael. Mae gan y llwyddiant hwn y potensial i greu miloedd o swyddi gwyrdd o ansawdd uchel a chyflwyno manteision ehangach i'n heconomi.

Mae Bargen y Sector yn adeiladu ar y cynnydd hwn i nodi camau gweithredu ar draws saith thema, sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, i sicrhau bod Cymru'n gallu cyrraedd y targedau pwysig ar gyfer 2035. Er ein bod yn gwneud cynnydd, mae ein targed yn ei hanfod yn un symudol gan y bydd y galw am drydan yn cynyddu wrth i ddiwydiant a thrafnidiaeth ddatgarboneiddio. Rhaid i ni felly barhau i sicrhau bod yr hyn a gyflawnir yn cyd-fynd â'n huchelgais.

Bydd rhai camau gweithredu a nodir ym Margen y Sector yn dechrau ar unwaith o dan y weinyddiaeth hon. Er y bydd yr holl ymrwymiadau yn y pen draw yn amodol ar flaenoriaethau'r weinyddiaeth newydd, bwriad y gwaith hwn yw darparu sylfaen gadarn a thystiolaeth gref ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru. Mae Bargen y Sector wedi'i chydlunio gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen o ddatblygwyr a sefydliadau cymunedol, a bydd yn rhoi tystiolaeth glir i unrhyw weinyddiaeth o'r camau sydd eu hangen i gadw buddion a chyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy yng Nghymru, pe byddant yn dewis gwneud hynny. Mae mwyafrif aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cymeradwyo Bargen y Sector ac rwy'n ddiolchgar i'r holl aelodau am eu hamser a'u hymrwymiad i'r gwaith hwn.