Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod wedi gofyn i Lywodraeth y DU gynnwys pwerau i Weinidogion Cymru mewn Bil Amaethyddiaeth sydd wedi'i gyflwyno gerbron Senedd y DU. Cafodd y Bil Amaethyddiaeth (y “Bil”) ei gyflwyno gan George Eustice AS yn Nhŷ'r Cyffredin ar 16 Ionawr 2020.

Mae'r Bil i'w weld yma: https://services.parliament.uk/Bills/2019-20/agriculture.html

Y bwriad yw mai pwerau dros dro fydd y rheini a fydd yn cael eu cymryd ar gyfer Gweinidogion Cymru, a hynny tan inni gyflwyno Bil Amaethyddiaeth (Cymru) er mwyn cynllunio system ar gyfer Cymru a fydd yn gweithio dros amaethyddiaeth Cymru, dros ddiwydiannau gwledig a'n cymunedau. Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â Chymru i'w gweld mewn Atodlen ar wahân.

Mae'r Bil a gyflwynwyd ar 16 Ionawr yn rhoi Pwerau i Weinidogion Cymru wneud barhau i dalu Taliadau Uniongyrchol i ffermwyr ar ôl 2020 ac yn rhoi sefydlogrwydd y mae dirfawr ei angen ar ein ffermwyr yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Mae ynddo hefyd bwerau eraill penodol, gan gynnwys pwerau sy'n bwysig er mwyn sicrhau bod marchnad fewnol y DU yn  gweithio'n effeithiol. 

O gofio bod cryn amser wedi mynd heibio ers i'r Bil gael ei gyflwyno gyntaf ym mis Medi 2018, rwyf wedi ystyried cwmpas yr atodlen ar gyfer Cymru, gan gyfeirio at yr adroddiadau defnyddiol a ddarparwyd gan y Senedd yn ystod y broses graffu. Rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw bellach yn briodol cymryd pwerau a fyddai'n caniatáu i Weinidogion Cymru redeg neu newid i gynlluniau newydd. Fy mwriad bellach yw darparu ar gyfer hynny mewn Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Rwy'n bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn tua diwedd 2020 a fydd yn amlinellu'r cyd-destun ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer Bil Amaethyddiaeth (Cymru).   

Yn gyffredinol, mae cyflwyno'r Bil Amaethyddiaeth yn gam pwysig er mwyn rhoi sefydlogrwydd wrth inni newid i system newydd o roi cymorth i ffermwyr. Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â materion datganoledig a byddaf yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.