Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Amlinellodd ‘Cymwys am Oes’ ein cynlluniau ar gyfer sicrhau bod pob dysgwr yn elwa ar addysgu a dysgu o’r radd flaenaf. Disgrifiodd ein gweledigaeth o sicrhau bod holl ddysgwr Cymru’n cael eu haddysgu mewn modd a fydd yn eu hysbrydoli i lwyddo mewn system addysg gydlynol sy’n anelu at y safonau uchaf posibl. Dyma system a fyddai’n galluogi pob plentyn a pherson ifanc i ddatblygu hyd eithaf ei allu.

Mae momentwm newydd bellach yn bodoli o fewn byd addysg yng Nghymru ac rydym wedi profi cryn lwyddiant wrth gefnogi dysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Rydym wedi pwysleisio o’r dechrau’n deg fod llwyddiant ein system addysg yn dibynnu ar lwyddiant pob plentyn.

Er mwyn cyflawni system addysg sy’n gweddu i bob dysgwr disgrifiodd Cymwys am Oes ein hymrwymiad i wella capasiti’r gweithlu. Y nod yw cydweithio â staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac â chymunedau er mwyn bodloni’n well anghenion dysgu plant a phobl ifanc ag AAA. Caiff ein cynigion o ran diwygio eu disgrifio yn ein Papur Gwyn sef ‘Cynigion Deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol’. Roedd y bobl sy’n cydweithio â dysgwyr yn gefnogol iawn i’r cynigion a nodwyd yn ein Papur Gwyn. Ers hynny rydym wedi mynd ati i ddatblygu’r cynigion deddfwriaethol manwl a fydd yn ategu system newydd i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.    

Rydym bellach wedi cwblhau’r gwaith hwnnw ac mae Bil drafft wedi’i lunio sy’n cwmpasu ein cynigion ac yn creu fframwaith deddfwriaethol newydd.

Bydd y gallu i weithredu’r Bil yn llwyddiannus yn dibynnu’n llwyr ar ein gweithlu – eu sgiliau a’u capasiti. Yn ogystal, ac yn bwysicach na hynny, mae llwyddiant y diwygiadau hyn yn dibynnu ar allu’r gweithlu i fodloni anghenion y dysgwyr hyn mewn modd ystyrlon a holistaidd.    

Mae’r Fargen Newydd ar gyfer y gweithlu’n disgrifio fy nghynlluniau ar gyfer cefnogi datblygiad proffesiynol gweithwyr o fewn ysgolion. Golyga hyn, ynghyd â’r weledigaeth a ddisgrifir yn adolygiad yr Athro Donaldson sef Dyfodol Llwyddiannus, fod gennym agenda uchelgeisiol iawn ar gyfer diwygio.

Pwysleisia Dyfodol Llwyddiannus y dylai dysgwyr fod wrth wraidd y cwricwlwm newydd a noda fod angen i’r cwricwlwm newydd gynnwys pob dysgwr a sicrhau bod pawb yn cyflawni cynnydd ar hyd yr un continwwm, pa bynnag anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddynt.  

Credaf fod perthynas newydd ynghyd â dulliau newydd o gydweithio ag ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a dysgwyr yn gwbl allweddol ar gyfer cyflwyno’r newidiadau hyn yn llwyddiannus. Yn ddiamau mae angen cynnwys y proffesiwn o’r dechrau’n deg wrth gyflwyno newidiadau a gwelliannau gwirioneddol yn hytrach na’u cyflwyno iddynt ar y funud olaf, a hynny heb eu cynnwys.

O ystyried hyn a’r newidiadau sylweddol yr ydym yn cynnig eu cyflwyno i’r modd yr ydym yn pennu ac yn cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol rwyf wedi penderfynu bod angen i ni gynnwys cam ychwanegol a phwysig yn ein proses ddiwygio.

Byddaf felly’n cyhoeddi’n fuan fersiwn ddrafft o Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Bydd hyn yn creu cyfle i randdeiliaid gyflwyno sylwadau ynghylch y cynigion deddfwriaethol manwl ac ymateb iddynt mewn modd llawer iawn mwy ystyrlon cyn iddynt ddilyn proses graffu ffurfiol y Cynulliad.

Rwy’n gwbl ymrwymedig i gyflawni system addysg hollol gynhwysol ar gyfer Cymru. Mae’n hollbwysig ein bod yn cyflawni er lles pob dysgwr yn y dosbarth er mwyn creu system addysg o’r radd flaenaf.

Mae creu fframwaith deddfwriaethol clir yn gwbl hanfodol ond mae angen mwy na dim ond cydymffurfiaeth ar y dysgwyr hynny. Rhaid i ni sicrhau bod gan ein hysgolion a’n gweithwyr y gallu, yr ymroddiad a’r sgiliau i gyflawni addysgu a dysgu cwbl gynhwysol. Trwy gynnwys y proffesiwn yn ein rhaglen ddiwygio a sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cyd-fynd â’n cynlluniau ar gyfer datblygiad proffesiynol ac ar gyfer y cwricwlwm a’r trefniadau asesu, gallwn gyflawni’r system orau bosibl ar gyfer ein holl ddysgwyr.

I’r perwyl hwn byddaf yn cyhoeddi fersiwn ddrafft Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) cyn toriad yr haf. Caiff Cod Ymarfer ADY newydd ynghyd ag amlinelliad o’n cynlluniau gweithredu eu cyhoeddi yn nhymor yr hydref.

Byddwn yn croesawu sylwadau ac adborth ynghylch y dogfennau hyn hyd fis Rhagfyr 2015.

Byddaf yn ystyried y fersiynau drafft yn unol ag adborth a gwaith trawsbleidiol er mwyn ennill y gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer sicrhau bod Bil yn cael ei gyflwyno at ddiben craffu ffurfiol ar ddechrau Tymor newydd y Cynulliad. Byddaf hefyd yn gofyn i swyddogion ystyried y ffordd orau o weithredu’r agweddau hynny ar ein camau diwygio nad oes angen deddfu yn eu cylch ac sy’n cyd-fynd yn llwyr  â’n hadolygiad o’r cwricwlwm a’r Fargen Newydd neu’n deillio ohonynt.

Byddaf yn cyflwyno Datganiad Llafar i’r Aelodau maes o law.