Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (‘y Bil’) wedi’i osod gerbron Senedd Cymru heddiw.

Mae’r Bil yn ceisio diwygio’r ffordd y caiff rhai o wasanaethau gofal iechyd y GIG eu caffael yng Nghymru; gan gyflwyno pwerau deddfwriaethol sylfaenol a galluogi Gweinidogion Cymru i greu cyfundrefn gaffael newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd y GIG.

Mae’r pwerau yn y Bil yn cefnogi nodau ac amcanion ein strategaeth ‘Cymru Iachach’ ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy ac effeithiol o ansawdd uchel; gan helpu’r GIG yng Nghymru i ddarparu canlyniadau iechyd gwell i ddinasyddion Cymru.

Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU yn cynnig cyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd y GIG yn Lloegr, sef y Gyfundrefn Dethol Darparwyr (PSR). Ei nod yw gwella canlyniadau i gleifion drwy ddileu biwrocratiaeth ddiangen o’r broses o weithio gyda darparwyr gofal iechyd annibynnol, ac annog cydweithio a phartneriaethau.

Bydd y PSR felly yn rhoi mwy o hyblygrwydd i GIG Lloegr gaffael a threfnu gwasanaethau iechyd annibynnol. O ganlyniad, gallai’r trefniadau newydd hyn effeithio ar allu GIG Cymru i gynnal a sicrhau gwasanaethau iechyd yng Nghymru pan fydd yn gweithio gyda darparwyr annibynnol.

I sicrhau nad yw caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru dan anfantais o ganlyniad i gyflwyno’r PSR yn Lloegr, nod Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a’r rheoliadau a wneir o dan y Bil yn y dyfodol, fydd darparu dull cefnogi ar gyfer cynnal y ‘tegwch’ presennol o ran caffael ar gyfer gwasanaethau iechyd y GIG rhwng Cymru a Lloegr. Bydd y dull gweithredu hwn yn ceisio lliniaru’r risg o effaith andwyol ar GIG Cymru yn sgil gweithredu cyfundrefn wahanol ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd yn Lloegr. Bydd y darpariaethau yn y Bil yn cynnal gallu GIG Cymru i gomisiynu darparwyr gwasanaeth iechyd annibynnol ar sail cydymffurfio a gweithio gyda’i gilydd; gan gefnogi a gwneud y mwyaf o adnoddau ariannol ac adnoddau staff maes o law, i alluogi’r GIG yng Nghymru i ddarparu yn effeithlon ac yn effeithiol.

Bydd y Bil hefyd yn ceisio lliniaru unrhyw ymyrraeth bosibl â’r farchnad drwy sicrhau bod y farchnad gwasanaethau iechyd annibynnol yng Nghymru yn parhau i ddenu mentrau bach a chanolig eu maint, ynghyd â sefydliadau trydydd sector; gan gefnogi Economi Sylfaenol Cymru maes o law.

Mae disgwyl i’r PSR yn Lloegr gychwyn yn ddiweddarach eleni ochr yn ochr â newidiadau ehangach a gyflwynir yn rhan o ddiwygio Bil Caffael Llywodraeth y DU sydd ar hyn o bryd wedi’i raglennu ar gyfer 2024. Felly, i leihau’r cyfnod lle bydd platfformau caffael gwasanaeth iechyd y GIG yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu yn wahanol i’w gilydd, ceisir cael y Cydsyniad Brenhinol i Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yr haf hwn, gyda rheoliadau arfaethedig y dyfodol yn dod i rym yn ystod Gwanwyn 2024.

Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory ac yn croesawu craffu ar y Bil dros y misoedd nesaf.