Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwynwyd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 22 Medi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar y pryd, y Gwir Anrh. Jacob Rees-Mogg AS.

Mae’r Bil, fel y’i cyflwynwyd, yn cynnwys llawer o bethau sylweddol na rannwyd â’r Llywodraethau Datganoledig cyn ei gyflwyno. Ysgrifennais at y Llywydd ar 5 Hydref i ddatgan, gan fod y Bil yn amlinellu cynnwys na welwyd o’r blaen ac oherwydd pryderon difrifol ynghylch effaith darpariaethau’r Bil, na fyddai'n bosibl gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o fewn yr amserlen sydd fel arfer yn cael ei neilltuo i’r broses.

Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol i amlinellu fy mhryderon ynghylch y Bil.

Mae’r Bil, fel y’i drafftiwyd, yn cynnwys pwerau cydredol y gellid eu harfer gan Weinidogion Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn annerbyniol o safbwynt cyfansoddiadol, ac rwyf wedi cyfleu’r farn hon yn gryf. Ein disgwyliad, yn y lle cyntaf, yw y dylai pwerau i ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig fod yn nwylo Gweinidogion Cymru yn unig, neu, os ydynt yn cael eu dal yn gydredol â Gweinidogion y Goron, y dylai fod gofyniad ar wyneb y Bil iddynt geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i'w harfer mewn meysydd datganoledig.

Pryder mawr arall yw’r terfyn amser i adolygu ac arbed, yn weithredol, gyfraith yr UE a ddargedwir erbyn y dyddiad machlud, sef 31 Rhagfyr 2023. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob un o lywodraethau’r DU ymgymryd â darn mawr o waith i adolygu miloedd o offerynnau statudol i bennu sut y dylid ymdrin â nhw o dan y Bil, neu fel arall bydd perygl y bydd yr offeryn yn cael ei dynnu o’r llyfr statud ar y dyddiad hwnnw. Mae’r Bil yn cynnwys mecanwaith i estyn dyddiad machlud darnau penodedig o gyfraith yr UE a ddargedwir i 2026, ond mae arfer y pŵer hwn wedi’i gyfyngu i Weinidogion y Goron ar hyn o bryd.

Mae’r Bil yn tynnu llawer o sylw oddi wrth faterion pwysicach y dylai’r llywodraeth fod yn canolbwyntio arnynt, fel yr argyfwng costau byw. Ein barn ni yw bod y corff o gyfraith yr UE a ddargedwir, fel y mae ar hyn o bryd, yn addas at y diben yn gyffredinol. Mae gosod y terfyn amser mympwyol yn golygu bod perygl gwirioneddol o ailedrych ar yr offerynnau cyfreithiol hyn ar frys ac o beidio â nodi rhyngddibyniaethau a materion eraill. Canlyniad posibl hyn fydd llyfr statud anweithredadwy.

Yn sgil hyn a phryderon eraill ynghylch y Bil, a allai, oherwydd ei natur, effeithio’n sylweddol ar ddatganoli, rydym yn argymell bod y Senedd yn atal ei chydsyniad ar gyfer y Bil.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn wedi’i osod heddiw (dolen allanol).