Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

1. Gosodir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Seneddol y Deyrnas Unedig. Mae Rheol Sefydlog 30 yn gofyn am osod datganiad ysgrifenedig yn nodi unrhyw ddarpariaethau mewn Bil perthnasol gan Senedd y Deyrnas Unedig sy'n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, y Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad, lle nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol dan Reol Sefydlog 29.

2. Cyflwynwyd Bil Cymru (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 7 Mehefin 2016, ac fe symudodd i Dŷ'r Arglwyddi ar 13 Medi. Ar hyn o bryd mae wedi cyrraedd cam Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi.  Ceir rhagor o fanylion am bob cymal unigol yn y Bil yn y Nodiadau Esboniadol, sydd ar gael ar dudalen dogfennau'r Bil ar wefan y Senedd drwy'r ddolen isod:

http://services.parliament.uk/bills/2016-17/wales/documents.html

3. Mae'r datganiad hwn yn cynnwys addasiadau perthnasol i swyddogaethau a oedd wedi'u cynnwys yn y Bil wrth ei gyflwyno ac sydd eisoes wedi'u hychwanegu at y Bil drwy welliannau. Cyhoeddwyd fersiwn ddiweddaraf y Bil ar wefan y Senedd pan gyrhaeddodd y Bil at yr Arglwyddi (Cyfeirnod HL Bill 63) ar 13 Medi 2016, ac mae ar gael drwy'r ddolen dogfennau'r Bil uchod. Er hwylustod a chysondeb, mae'r holl gyfeiriadau at rifau cymalau yn cyfeirio at y fersiwn honno o'r Bil.

4. Ceir rhestr o'r gwelliannau perthnasol a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn ystod cam Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi yn Atodiad A.

Amcanion polisi 

5. Amcanion Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil yw gweithredu'r elfennau hynny o Bapur Gorchymyn (https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/408587/47683_CM9020_ENGLISH.pdf)  Dydd Gŵyl Dewi y mae'n ofynnol newid deddfwriaeth ar eu cyfer. Mae'r Bil yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 er mwyn symud at ddatganoli yn seiliedig ar fodel cadw pwerau, ac mae hefyd yn datganoli pwerau penodol eraill a argymhellwyd gan Gomisiwn Silk.

Darpariaethau perthnasol yn y Bil 

6. Mae'r rhestr ganlynol o gymalau yn crynhoi'r mannau lle mae swyddogaethau'n cael eu haddasu, yn unol â Rheol Sefydlog 30. Daw'r penawdau isod o'r Bil ei hun er hwylustod. Ceir rhagor o fanylion am bob cymal yn y Nodiadau Esboniadol drwy'r ddolen at ddogfennau'r Bil uchod.

Rhan 1: Trefniadau Cyfansoddiadol 

Etholiadau

7. Mae cymal 5 yn rhoi pŵer gwneud gorchmynion i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cynnal etholiadau Cynulliad, cwestiynu etholiadau o’r fath ac ethol aelod Cynulliad yn ffurfiol heblaw mewn etholiad. Mae unrhyw reoliadau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno eu gwneud i gyfuno etholiadau'r Cynulliad gydag etholiadau penodol eraill ar gyfer Senedd y DU neu Senedd Ewrop yn amodol ar gytundeb Gweinidogion Cymru.  
Mae cymal 6 yn trosglwyddo pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol y Cynulliad i'w Mawrhydi, a all amrywio'r dyddiad drwy broclamasiwn yn dilyn cynnig gan y Llywydd. Hefyd mae'n atal cynnal etholiad cyffredinol ar gyfer y Cynulliad ar yr un diwrnod ag etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU neu Senedd Ewrop. Pan fo gwrthdaro o'r fath, oni bai bod Ei Mawrhydi wedi gosod dyddiad arall drwy broclamasiwn, gall Gweinidogion Cymru wneud hynny drwy orchymyn. .
Mae cymal 7 yn darparu bod swyddogaethau penodol sydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Gwasanaeth Digidol y DU ar gyfer ceisiadau i'r gofrestr etholwyr yn rhai y gall Gweinidogion Cymru eu harfer yn gydredol ag un o Weinidogion y Goron mewn perthynas ag etholiadau'r Cynulliad neu etholiadau llywodraeth leol Cymru.

Cyfraddau treth incwm Cymru: dileu'r gofyniad am refferendwm

8. Mae cymal 17 yn diddymu'r pŵer i Brif Weinidog Cymru neu un o Weinidogion Cymru gychwyn refferendwm arfaethedig, a swyddogaeth y Cynulliad o gymeradwyo cynnig o'r fath.

Cymhwysedd Gweithredol ac ati

9. Mae cymal 18 yn creu pwerau i Weinidogion Cymru, "pwerau gweinidogol gweithredol". Dyma "bwerau o'r math a geir yn y gyfraith gyffredin", wedi'u modelu ar swyddogaethau sy'n cael eu cyflawni gan Weinidogion y Goron.  Mae cymal 19 yn rhoi hawl awtomatig i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 i weithredu cyfraith yr UE yng Nghymru pan fo materion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Swyddogaethau'r Cynulliad mewn perthynas â gwneud neu addasu rheolau sefydlog 

10. Mae Rhan 1 yn cynnwys cymalau sydd naill ai yn gosod dyletswyddau ar y Cynulliad, neu'n rhoi pwerau iddo, er mwyn gwneud newidiadau gweithdrefnol neu newidiadau eraill i reolau sefydlog. Hefyd yn Rhan 1 mae cymalau sy'n diddymu darpariaethau gorfodol ac yn ôl disgresiwn ynghylch rheolau sefydlog a osodwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae'r addasiadau hyn wedi'u gosod yn y cymalau canlynol:
Cymal 10 - Y gofyn am uwch-fwyafrif: diwygiadau yn ymwneud â gweithdrefnau ac ati
Cymal 11 - Cyflwyno Biliau: asesiad o’r effaith ar gyfiawnder
Cymal 14 - Cyfansoddiad pwyllgorau'r Cynulliad
Cymal 15 - Trafodion y Cynulliad: cyfranogiad Gweinidogion y DU ac ati

Addasu swyddogaethau'r Llywydd yn Rhan 1. 

11. Er nad yw Rheol Sefydlog 30 yn gofyn yn benodol am gynnwys addasiadau i swyddogaethau'r Llywydd, mae'r cymalau lle ceir addasiadau wedi'u rhestru isod.
Cymal 6 - Amseriad etholiadau
Cymal 10 - Y gofyn am uwch-fwyafrif: diwygiadau yn ymwneud â gweithdrefnau ac ati
Cymal 12 - Cyflwyno Biliau ar gyfer Cydsyniad Brenhinol: rôl y Llywydd. Mae cymal 12 hefyd yn addasu swyddogaethau'r Clerc.

Rhan 2: Cymhwysedd Deddfwriaethol a Gweithredol: Darpariaethau Pellach

Petrolewm ar y tir

12. Mae cymal 23 yn trosglwyddo pŵer i Weinidogion Cymru ddyfarnu trwyddedau petrolewm ar y tir.
Mae cymal 25 yn darparu ar gyfer trosglwyddo rhagor o bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru, a all wneud cynlluniau i'w gwneud yn ofynnol i weithredwyr roi hysbysiad mewn perthynas ag arfer yr hawl i ddefnyddio tir ar ddyfnder mawr i ddrilio am betrolewm neu ynni geothermol, a gwneud taliadau i gymunedau a pherchenogion tir.
Mae paragraff 28 o Atodlen 5 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n diffinio “landward area” fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r hawl i ddefnyddio tir ar ddyfnder mawr yng Nghymru er mwyn elwa o betrolewm ar y tir.

Trafnidiaeth ffyrdd 

13. Mae cymal 26 yn datganoli nifer o bwerau yn ymwneud â'r ffyrdd i Weinidogion Cymru, yn benodol;
- gwneud rheoliadau am ffyrdd arbennig;
- gosod terfynau cyflymder;
- gwneud rheoliadau am groesfannau i gerddwyr;
- rhagnodi arwyddion a chymeradwyo gwisgoedd hebryngwyr croesfannau ysgol; a
- gwneud rheoliadau am arwyddion traffig.

Mae cymal 27 yn datganoli cofrestru llwybrau bysiau i Weinidogion Cymru, ac yn cyfyngu ar allu'r Uwch Gomisiynydd Traffig i gyhoeddi canllawiau mewn materion sy'n effeithio ar Gymru yn unig.

Mae cymal 28 yn pennu Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod trwyddedu perthnasol mewn perthynas â llogi tacsis yn syth am brisiau ar wahân.

Harbyrau

14. Mae Cymalau 29 -32, i'r graddau y maent yn berthnasol i drosglwyddo swyddogaethau i Weinidogion Cymru, yn trosglwyddo nifer o swyddogaethau sy’n ymwneud â harbyrau sy’n gyfan gwbl yng Nghymru, heblaw am borthladdoedd ymddiriedolaeth a gedwir. Mae’r swyddogaethau a drosglwyddir yn swyddogaethau i un o Weinidogion y Goron o dan ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â harbyrau, awdurdodau harbwr a pheilotiaeth.

15. Mae cymal 34 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidog y Goron ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn arfer swyddogaeth sy'n debygol o gael effaith sylweddol yng Nghymru mewn perthynas â harbwr trawsffiniol, a chyn creu harbwr trawsffiniol newydd. Mae cymal 35 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn arfer swyddogaethau peilotiaeth perthnasol mewn perthynas â Chymru. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol cyn arfer unrhyw swyddogaethau peilotiaeth perthnasol mewn perthynas â dyfroedd yn Lloegr, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny (Cymal 36).

Cynllunio ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu trydan

16. Mae cymal 37 yn datganoli caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu prosiectau ynni hyd at 350MW ar dir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru. Mae'n datganoli cyfrifoldeb dros ganiatâd datblygu gorsafoedd ynni'r gwynt ar y tir heb unrhyw gyfyngiad. Effaith y darpariaethau hyn yw datgymhwyso pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 i roi caniatâd datblygu ar gyfer yr holl orsafoedd cynhyrchu trydan, hyd at 350MW. Yn ymarferol, mae'r Bil yn trosglwyddo prosiectau o'r fath i'r system cynllunio gwlad a thref os ydynt ar y tir. Bydd penderfyniadau ynglŷn â phrosiectau ynni sydd dros 350MW yn parhau i gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan drefn caniatâd datblygu Deddf Cynllunio 2008.

17. Mae cymal 38 yn trosglwyddo swyddogaethau gweithredol oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru er mwyn eu galluogi i gyfyngu ar hawliau mordwyo mewn perthynas â dyfroedd Cymru pan fo gorsafoedd cynhyrchu sy'n cynnwys gweithfeydd ynni adnewyddadwy yn cael eu gosod. Mae cymal 39 yn trosglwyddo swyddogaethau gweithredol oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru er mwyn eu galluogi i gyfyngu ar symudiadau llongau a'r gweithgareddau a ganiateir mewn dyfroedd o amgylch gweithfeydd ynni adnewyddadwy. Mae cymal 40 yn caniatáu i Weinidogion Cymru neu awdurdodau cynllunio lleol gytuno i ddatblygiad mewn perthynas â llinellau trydan uwchben sy'n gysylltiedig â gorsafoedd cynhyrchu y gellir cydsynio iddynt.

18. Mae cymal 41 yn gwneud darpariaeth i'r cyfrifoldeb dros ganiatáu datblygiad cysylltiedig ar gyfer prosiectau ynni gael ei alinio â’r cyfrifoldeb dros ganiatáu’r prif brosiect. Effaith hyn yw symud datblygiadau cysylltiedig â phrosiectau ynni dros 350MW yng Nghymru i ddod o dan drefn Deddf Cynllunio 2008, fel bod modd i'r Ysgrifennydd gwladol roi cydsyniad ar gyfer datblygiadau sy'n gysylltiedig â'r prosiectau hynny. Wrth wneud hynny, yn anuniongyrchol mae'n diddymu neu'n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran galw i mewn a gwrando ar apeliadau mewn perthynas â datblygiadau o'r fath dan adrannau 77 a 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Cyfle Cyfartal

19. Mae cymal 42 yn gwneud darpariaeth fel nad oes gofyn bellach i Weinidogion Cymru gael cydsyniad Gweinidog y Goron er mwyn addasu'r rhestr o awdurdodau lleol sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Bellach nid oes rhaid gwneud mwy na hysbysu’r Gweinidog hwnnw eu bod wedi gwneud hynny. Mae cymal 43 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod "dyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol" ar awdurdodau cyhoeddus sy'n arfer swyddogaethau datganoledig neu ddatganoledig yn bennaf. Ni ddaeth y pŵer hwn, sydd eisoes yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i rym erioed, ac fe fydd modd i Weinidogion Cymru bellach ei gychwyn drwy orchymyn.

Trwyddedu a chadwraeth forol 

20. Rhaid cael trwydded cyn gwneud rhai gweithgareddau morol, megis carthu a suddo llongau. Ar hyn o bryd rhaid i'r rhai sy'n ceisio trwydded wneud cais i naill ai:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gweithgareddau o fewn rhanbarth glannau Cymru, dan awdurdod Gweinidogion Cymru, neu; 
  • Y Sefydliad Rheoli Morol ar gyfer gweithgareddau yn rhanbarth môr mawr Cymru, dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol.


21. Bydd cymal 44 yn darparu pwerau trwyddedu morol i Weinidogion Cymru yn rhanbarth môr mawr Cymru, er y bydd rhai gweithgareddau yn cael eu cadw yn ôl i'r Ysgrifennydd Gwladol.  
Bydd cymal 45 yn caniatáu i Weinidogion Cymru, gyda chaniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol, greu Parthau Cadwraeth Morol yn rhanbarth y môr mawr. Gallant wneud hynny eisoes yn nyfroedd y glannau. Gellid pennu'r parthau hynny, er enghraifft, i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd morol sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.  Mae paragraff 2 o Atodlen 3A newydd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y mewnosodir gan Atodlen 4 i'r Bil) yn ymestyn swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chychod pysgota Cymru y tu hwnt i’r terfyn tua’r môr ym mharth Cymru (swyddogaethau cydredol gyda Gweinidog y Goron ar hyn o bryd) .

Rheoliadau adeiladu

22. Mae cymal 47 yn diddymu eithriad i’r trosglwyddiad blaenorol o bwerau rheoliadau adeiladu, gan ganiatáu i Weinidogion Cymru gynnwys adeiladau sy'n rhan o'r seilwaith ynni dan reoliadau adeiladu yn y dyfodol.

Rhan 3: Amrywiol

23. Mae cymal 50 yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad alw'r Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan i roi tystiolaeth ysgrifenedig neu lafar mewn perthynas â Chymru. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod adroddiad blynyddol yr Awdurdod hwnnw, ynghyd â'r cyfrifon a'r adroddiad archwilio wedi'i ardystio, gerbron y Cynulliad. Mae cymal 51 yn ei gwneud yn ofynnol i geisiadau am drwyddedau cloddio glo yng Nghymru gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

24. Mae cymal 52 yn caniatáu i Weinidogion Cymru benodi un aelod i fwrdd Ofcom ar ôl ymgynghori gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod adroddiad blynyddol Ofcom, ynghyd â'r cyfrifon a'r adroddiad archwilio, gerbron y Cynulliad.

Pwerau'r Cynulliad i gymeradwyo gorchmynion drwy gynnig 

25. Nid yw'r cymalau canlynol wedi'u cyfyngu i un rhan unigol o'r Bil, ond maent yn cwmpasu Atodlen 5 hefyd.

26. Lle bo pwerau newydd i wneud gorchmynion (neu ddiddymu pwerau presennol i wneud gorchmynion) a fyddai'n gofyn am gymeradwyaeth y Cynulliad drwy gynnig, neu sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad ddiddymu'r gorchymyn, gellid ystyried hynny fel addasiad o swyddogaethau'r Cynulliad, ac maent wedi'u cynnwys yma yn unol â Rheol Sefydlog 30. Mae offerynnau statudol newydd eraill, sydd eto yn dibynnu ar gytundeb drwy gynnig yn y Cynulliad, hefyd wedi'u cynnwys yma. Mae cynigion Cynulliad o'r fath wedi'u nodi yn y cymalau canlynol:
Cymal 4 - Awdurdodau cyhoeddus Cymru
Cymal 5 - Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau
Cymal 6 - Amseriad etholiadau
Cymal 7 - Cofrestru etholiadol: y Gwasanaeth Digidol
Cymal 19 - Gweithredu cyfraith yr UE
Atodlen 5, Rhan 1, paragraff 3(3) mewn perthynas â chymhwysedd deddfwriaethol: atodol
Atodlen 5, Rhan 2, paragraffau 12(3), 14(4) a 14(13) mewn perthynas â phetrolewm ar y tir.
Atodlen 5, Rhan 2, paragraff 21 mewn perthynas â Deddf Ynni 2004
Atodlen 5, Rhan 2, paragraff 29(3) mewn perthynas â Deddf Seilwaith 2015
Atodlen 5, Rhan 3, paragraff 36(2) mewn perthynas â'r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig.
Atodlen 5, Rhan 3, paragraffau 39(2) a 39(3) mewn perthynas â therfynau cyflymder dros dro.
Atodlen 5, Rhan 3, paragraff 40(3) mewn perthynas â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Atodlen 5, Rhan 3, paragraff 42 mewn perthynas â Deddf Trafnidiaeth 1985
Atodlen 5, Rhan 3, paragraff 45 mewn perthynas â Deddf Trydan 1989
Atodlen 5, Rhan 3, paragraff 54(4) mewn perthynas â Deddf Ynni 2004

Rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn o fewn Bil Cymru 

27. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylid edrych ar y pwerau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn yng nghyd-destun Bil Cymru'n gyfan er mwyn gwerthfawrogi'r pwerau sy'n cael eu cynnwys yn y Bil hwn yn llawn. Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a osodwyd ar yr un pryd â'r datganiad hwn, yn cwmpasu'r darpariaethau hynny yn y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Cynulliad drwy Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Ni ddylid cymryd bod gosod y datganiad hwn yn arwydd o unrhyw fath ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r Cynulliad gydsynio i'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol neu beidio, ymhen amser.

28. Ystyrir ei bod yn briodol i'r darpariaethau sy'n cael eu rhestru yn y datganiad hwn gael eu cynnwys o fewn Bil Cymru, oherwydd ni fyddai'n bosibl i'r darpariaethau gael eu gwneud gan Ddeddf Cynulliad, neu byddai modd eu gwneud drwy Ddeddf Cynulliad gyda chydsyniad Gweinidogol y DU yn unig.