Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, 1 Rhagfyr 2014, cyflwynwyd Bil Cymwysterau Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y Bil yn sefydlu corff arbenigol annibynnol newydd o’r enw ‘Cymwysterau Cymru’ i reoleiddio cyrff dyfarnu a chymwysterau yng Nghymru, ac eithrio graddau.

Bydd Cymwysterau Cymru yn sylfaen i’r gwaith o ddiwygio cymwysterau a ddechreuodd gyda’r Adolygiad o Gymwysterau yn 2012 a, bellach, mae’n un o gonglfeini ein strategaeth ‘Cymwys am Oes’. Wrth greu Cymwysterau Cymru, rwy’n cyflawni fy ymrwymiadau, yn gyntaf i reoleiddio annibynnol, yn ail i gryfhau’r broses reoleiddio, ac yn drydydd i symleiddio’r system gymwysterau yng Nghymru.

Bydd y Bil hwn yn sefydlu Cymwysterau Cymru yn rheoleiddiwr annibynnol. Bydd yn cyflwyno adroddiadau blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar sut mae wedi cyflawni ei swyddogaethau rheoleiddio y flwyddyn honno, ar ei waith ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ar ei fwriadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd hefyd yn adrodd ar gasgliadau unrhyw asesiadau y mae wedi’u cynnal ar effaith gweithgarwch blaenorol.

Mae’r Bil hwn yn rhoi’r lle canolog i’r dysgwr ac yn sicrhau bod penderfyniadau am gymwysterau Cymru, ac eithrio graddau, yn cael eu cymryd yng Nghymru, ac er lles dysgwyr Cymru.

Yn ogystal â phwerau tebyg i’r rheini sydd gan Weinidogion Cymru ar hyn o bryd, bydd gan Gymwysterau Cymru amrywiaeth o bwerau newydd ac arloesol a fydd nid dim ond yn caniatáu iddo reoleiddio’r system gymwysterau yng Nghymru, ond hefyd ei llywio.

Bydd dau brif amcan gan y corff newydd mewn perthynas â chymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru. Y cyntaf yw sicrhau ei fod yn llwyddo’n effeithiol i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru. Yr ail yw codi hyder y cyhoedd.

Wrth gyflawni’r prif amcanion hyn, ac wrth wneud ei benderfyniadau, rhaid i’r corff newydd roi sylw hefyd, ymhlith elfennau eraill, i wyth mater hollbwysig, sef economi Cymru; yr iaith Gymraeg; anghenion cyflogwyr, darparwyr addysg uwch a phroffesiynau; sut mae cymwysterau yn cyfateb o fewn Cymru a thu hwnt; effeithlonrwydd y ddarpariaeth; y cymwysterau sydd ar gael; y trefniadau asesu; a’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol.

Yn hollbwysig, mae’r amcanion a’r materion cysylltiedig yn golygu bod disgwyl i Gymwysterau Cymru ystyried cynnwys y cymwysterau, nid dim ond pa mor dda y cânt eu llunio neu eu hasesu. Mae’n rhoi cylch gwaith eang i Gymwysterau Cymru ac yn golygu y bydd yn rhaid iddo gymryd camau i ddod i ddeall yr hyn sydd ei angen yng Nghymru, ac yna weithredu’n briodol.

Nid yw’r Bil yn gwahaniaethu rhwng cymwysterau cyffredinol a chymwysterau galwedigaethol. Mae’r ddau fath yn perthyn yn glir iawn i gylch gwaith Cymwysterau Cymru.

Rwy’n disgwyl i Gymwysterau Cymru ddod, maes o law, yn arbenigwr ar waith rheoleiddio. Bydd ganddo’r gallu i lywio’r system gymwysterau yng Nghymru, gan wneud gwaith ymchwil; cydweithio’n agos ag addysgwyr, busnesau a chynrychiolwyr sectorau yng Nghymru; a defnyddio’r dystiolaeth honno i benderfynu ar yr anghenion. Bydd ei bwerau i gomisiynu cymwysterau newydd yn ei alluogi, pan fo angen, i gymryd camau uniongyrchol i sicrhau bod cymwysterau newydd yn cael eu dylunio a’u datblygu er mwyn diwallu anghenion Cymru.

Fy uchelgais yn y tymor hir, yn dal i fod, yw gweld Cymwysterau Cymru yn symud ymlaen i fod yn gorff dyfarnu. Ond rhaid aros am yr adeg iawn. Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru adolygu ei rôl ei hun a rôl cyrff dyfarnu yn barhaus, a byddaf yn croesawu ei gyngor ar sut mae’r system gymwysterau yn gweithio dros Gymru.

I grynhoi, er bod nifer o’r swyddogaethau rheoleiddio y mae’r Bil hwn yn eu rhoi i Gymwysterau Cymru yn adlewyrchu’r rheini sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Weinidogion Cymru, mae’n cynnwys nifer o ddarpariaethau arloesol a fydd yn rhoi adnoddau pwerus i Gymwysterau Cymru allu rheoleiddio’n briodol er lles dysgwyr yng Nghymru.