Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi cyflwyno Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), a'i Femorandwm Esboniadol, i'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw, 13 Mawrth 2017.


Mae ein tai cymdeithasol yn adnodd gwerthfawr, ond yn un sydd o dan bwysau sylweddol. Mae maint y stoc wedi lleihau'n sylweddol ers 1980 pan gafodd yr Hawl i Brynu ei chyflwyno. Mae nifer y tai a werthwyd yn cyfateb i 45% o'r stoc o dai cymdeithasol yn 1981. Fel canlyniad i hynny, roedd y rheini yr oedd angen tai arnynt – a nifer yn eu plith yn agored i niwed – yn gorfod aros am gyfnodau hirach i gael cartref yr oeddent yn gallu ei fforddio.


Bydd y Bil yn darparu bod yr Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd a'r Hawl i Gaffael, ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn cael eu diddymu ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf yn dilyn cael y Cydsyniad Brenhinol.


Mae'r Bil yn cefnogi nodau ehangach Llywodraeth Cymru yn y gwaith o greu Cymru sy'n decach a mwy llewyrchus. Bydd yn helpu i drechu tlodi drwy ddiogelu ein stoc o dai cymdeithasol rhag lleihau ymhellach, gan sicrhau ei bod ar gael i gynnig tai diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu prynu na rhentu cartref drwy'r farchnad dai.


Mae'r Bil yn darparu y bydd yr Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael yn dod i ben ar gyfer tai newydd ddau fis ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol. Bydd hynny'n helpu i annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu cartrefi newydd, o wybod na fyddant mewn perygl o gael eu gwerthu ar ôl cyfnod cymharol fyr.
Rwy'n cydnabod bod y cynnig yn effeithio ar denantiaid mewn tai cymdeithasol, a byddwn yn sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o effaith y Bil mewn da bryd cyn i'r hawliau gael eu diddymu. Bydd y Bil yn cynnwys gofyniad i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth, y bydd rhaid i landlordiaid cymdeithasol yn eu tro ddarparu i bob tenant sy'n cael ei effeithio, o fewn dau fis i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol.


Mae'r Bil yn cyd-fynd â chamau gweithredu eraill sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad o dai. Rydym wedi pennu targed uchelgeisiol o greu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon. Ynghyd â thai cymdeithasol bydd hyn yn cynnwys cynlluniau fel Cymorth i Brynu a Rhentu i Brynu i alluogi pobl sydd ar incwm cymedrol i fod yn berchen ar eu tai eu hunain. Rydym yn cefnogi dulliau rhad o brynu tŷ, ac rydym yn ehangu'r stoc o dai cymdeithasol.


Roedd diddymu'r Hawl i Brynu, er mwyn cefnogi pobl y mae angen tai arnynt, yn un o'r ymrwymiadau a wnaed yn ein maniffesto. Rwy'n falch i gyflwyno'r Bil hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio ar y cyd â'r Cynulliad Cenedlaethol i graffu arno dros y misoedd nesaf. Byddaf yn cyflwyno Datganiad Llafar ar y Bil i'r Cynulliad yfory, 14 Mawrth 2017.


Ceir manylion am y Bil ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru – www.cynulliad.cymru.