Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod heddiw yn cyhoeddi Bil drafft Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
Nod y Bil yw rhoi’r pŵer i bobl yng Nghymru ddiswyddo Aelodau o’r Senedd sy’n torri rheolau ymddygiad yn ddifrifol. Mae’n nodi mecanwaith adalw ar gyfer y Senedd sy’n cynnwys dau ddigwyddiad sbardun clir a fyddai’n arwain at wneud Aelod yn destun pôl adalw. Y cyntaf yw pan fo Aelod yn cael ei euogfarnu o drosedd ac yn cael dedfryd o garchar (gan gynnwys dedfrydau wedi’u gohirio), a’r ail yw pan fo’r Senedd yn cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y dylid gwneud Aelod yn destun pôl adalw o ganlyniad i gamymddwyn difrifol.
Yn ogystal, mae’r Bil drafft yn cynnwys gofyniad statudol i bob Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a allai, am y tro cyntaf, gynnwys aelodau lleyg annibynnol. At hynny, byddai’r Comisiynydd Safonau yn cael pwerau ychwanegol i ymchwilio i bryderon am ymddygiad Aelodau.
Mae hefyd yn diwygio pwerau Gweinidogion Cymru i osod rheolau ynghylch sut y caiff etholiadau i’r Senedd eu cynnal. Er mwyn mynd i’r afael â dichell fwriadol, bydd hefyd yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wahardd datganiadau ffug mewn gorchmynion ymddygiad yn y dyfodol a fydd yn ymwneud â llywodraethu etholiadau i’r Senedd.
Gellir dod o hyd i’r Bil drafft yn y ddolen a ganlyn: https://www.llyw.cymru/drafft-bil-senedd- cymru-atebolrwydd-aelodau-ac-etholiadau.
Nod cyhoeddi’r Bil drafft heddiw yw rhoi cyfle i Aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb weld cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno’n ffurfiol yn yr hydref. Nid yw’n cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori pellach ar hyn o bryd. Mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i benderfyniad y Llywydd ac efallai y bydd newidiadau cyn y caiff ei gyflwyno. Felly, nid dyma’r fersiwn derfynol.
Ar ôl cyflwyno’r Bil, edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau o’r Senedd ar ddarpariaethau’r Bil yn ystod y broses graffu.
