Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Heddiw, rwy'n cyhoeddi Bil drafft a fydd, os caiff ei basio gan y Senedd, yn sicrhau y gall Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (y Tribiwnlys) barhau i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
Mae'r Tribiwnlys yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu hawliau unigolion sy'n cael eu cadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Rhaid i'w baneli gynnwys aelod cyfreithiol, aelod lleyg, ac aelod meddygol. Penodir aelodau meddygol gan yr Arglwydd Ganghellor ar gyngor y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.
Mae mater technegol wedi'i nodi mewn perthynas â'r diffiniad o "ymarferydd meddygol cofrestredig" yn Neddf Iechyd Meddwl 1983, sy'n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn a benodir i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru feddu ar gofrestriad gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol a thrwydded i ymarfer.
Ar ôl nodi'r mater hwn, mae Llywydd y Tribiwnlys wedi penderfynu atal aelodau heb drwydded gyfredol i ymarfer rhag eistedd ar achosion. Mae hyn yn rhoi'r Tribiwnlys mewn cryn berygl o fethu â bodloni ei amserlenni statudol ar gyfer gwrandawiadau.
Mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi cynghori mai dim ond 19 aelod meddygol o'r Tribiwnlys sydd bellach ar gael i eistedd ar achosion. Er bod Llywydd y Tribiwnlys wedi gofyn i'r aelodau hynny fod ar gael cymaint â phosibl, cyngor clir y farnwriaeth yw nad oes digon o aelodau meddygol ar gael i eistedd ar nifer yr achosion sydd wedi'u rhestru ar gyfer yr wythnosau nesaf.
Mae aelodau heb drwyddedau cyfredol, sy'n aml wedi ymddeol o'r ymarfer, wedi eistedd ar nifer anghymesur o uchel o achosion y Tribiwnlys. Mae pob aelod meddygol o'r Tribiwnlys wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Barn Gweinidogion Cymru, fel mater o bolisi, yw na ddylai trwydded gyfredol i ymarfer fod yn ofyniad i eistedd fel aelod meddygol o'r Tribiwnlys.
Felly, nod y Bil yw rhoi effaith i'r bwriad polisi mai'r maen prawf cymhwyso ar gyfer aelodau meddygol o’r Tribiwnlys yw eu bod wedi'u cofrestru o fewn ystyr Deddf Meddygol 1983, ond nad yw'n ofynnol iddynt feddu ar drwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno. Bydd hyn yn sicrhau bod gofynion cymhwystra'r Tribiwnlys yn cyd-fynd â'r rhai yn Lloegr.
Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn darparu bod personau a benodwyd yn flaenorol fel aelodau meddygol, ond nad oedd ganddynt drwydded i ymarfer (boed ar adeg eu penodi neu ar unrhyw adeg arall), wedi'u penodi'n ddilys ac yn aelodau dilys o'r Tribiwnlys ar hyd yr adeg.
Heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at y Llywydd gyda drafft o'r Bil arfaethedig, yn gofyn iddi gyflymu'r broses benderfynu i ganiatáu i'r Senedd ddechrau ystyried y mater hwn ar ôl iddi ddychwelyd ar 13 Ionawr. Byddaf yn cyflwyno cynigion i atal Rheolau Sefydlog i ganiatáu i'r Senedd ystyried cynigion i gyflwyno Bil Brys. Bydd y cynigion yn darparu ar gyfer cwblhau pob cam o broses ystyried y Senedd erbyn diwedd 14 Ionawr.
Er mwyn cefnogi Aelodau'r Senedd i graffu ar y Bil, er gwaethaf yr amserlen hon, heddiw, rwy'n cyhoeddi'r Bil drafft ochr yn ochr â'i gyflwyno i'r Llywydd benderfynu arno, fel y bu'n arferol ar gyfer Biliau Blwyddyn 5 eraill. Mae'r Bil drafft ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) | LLYW.CYMRU
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
