Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol yn cael eu gosod gerbron y Senedd. 

Y Bil yw'r cam nesaf yn ein hymrwymiad i foderneiddio a diwygio etholiadau Cymreig.  Hyd yma, rydym wedi estyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys, wedi cyhoeddi fframwaith clir ar gyfer Diwygio Etholiadol ac wedi cyflawni cyfres o ddatblygiadau etholiadol arloesol yn yr etholiadau lleol a gynhaliwyd y llynedd. Mae hefyd yn adeiladu ar ddarpariaethau sy'n ymwneud ag argraffnodau digidol a gorchmynion anghymhwyso yn Neddf Etholiadau 2022 y rhoddodd y Senedd gydsyniad iddynt ac sydd bellach yn gymwys i etholiadau Cymreig.

Bydd y Bil a'r pecyn diwygio ehangach yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan mewn etholiadau Cymreig. Bydd yn gwella hygyrchedd i bobl anabl ac yn cymryd camau i sicrhau bod pob pleidleisiwr cymwys wedi'i gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau Cymreig drwy ddarpariaethau newydd arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol gofrestru etholwyr cymwys ar y gofrestr llywodraeth leol yn awtomatig. Bydd yn egluro trosedd dylanwad amhriodol ac yn adlewyrchu rhai rheolau yn Neddf Etholiadau 2022 mewn perthynas â chyllid ymgyrchu. Bydd yn sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol er mwyn cryfhau gweinyddu etholiadol.

Bydd hefyd yn darparu ar gyfer diwygio'r prosesau cynnal adolygiadau cymunedau ac adolygiadau etholiadol. Bydd yn dileu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn rhoi'r swyddogaethau o ran cydnabyddiaeth ariannol a gyflawnwyd yn flaenorol gan y Panel i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu a gweithredu platfform ar-lein a fydd yn cynnwys gwybodaeth am etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyffredin prif gynghorau er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth am etholiadau yng Nghymru. 

Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd camau i gynyddu cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol chwarae rhan lawn o ran cynorthwyo a chynrychioli eu cymunedau drwy sefyll am swyddi etholedig. Bydd yn adeiladu ar ein cynllun peilot o gymorth ariannol i helpu ymgeiswyr anabl mewn etholiadau Cymreig i gael gwared â'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan.

Edrychaf ymlaen at y gwaith craffu ar y Bil gan yr Aelodau, ac at glywed barn rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni, a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol.