Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AM, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Gwasanaethau Cynaliadwy i Gymru yn rhoi llais a rheolaeth i’r dinesydd wrth wraidd y ffordd y darperir gwasanaethau, gan hybu llesiant pobl a chefnogi’r rheini sydd angen gofal a chymorth. 

Heddiw rwy’n rhoi diweddariad i’r Aelodau ar hynt y gwaith o ddatblygu Fframwaith Asesu a Chymhwysedd a fydd yn cefnogi’r broses o drawsnewid gwasanaethau a sicrhau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy.  

Yn ôl Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (‘y Bil’) bydd angen sefydlu trefniadau newydd ar gyfer asesu a chymhwysedd.  Rwyf wedi comisiynu adroddiad gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol i’n cefnogi yn ein gwaith o ddatblygu’r trefniadau manwl hyn.

Mae’r adroddiad hwnnw - Access to Care and Well-being in Wales - yn tynnu sylw at y prif nodweddion fydd yn sail i drefniadau yn y dyfodol, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r fframwaith a nodir yn y Bil ac yn fwy hyblyg ac ymatebol i’r amgylchiadau newidiol sydd o’n blaenau ni i gyd. Rwy’n ddiolchgar i’r Asiantaeth ac i’r rheini sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn.

Rwyf wedi ystyried adroddiad yr Asiantaeth ac rwy’n cytuno â hi y dylai prif nodweddion y Fframwaith gynnwys: 

  • Gwybodaeth, cyngor a chymorth da ar gael yn haws er mwyn ennyn cefnogaeth y dinesydd, ynghyd â chyswllt â’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned, fel y gall pobl gael llais a rheolaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus. 
  • Amrediad eang o gefnogaeth gymesur yn y gymuned, y gall dinasyddion sydd ag anghenion yn ymwneud â’u llesiant fanteisio arni heb orfod dibynnu ar becyn asesu a gofal cymhleth.
  • Cymorth mwy penodol er mwyn asesu unigolion a theuluoedd sydd ag anghenion sylweddol a dyfal, a threfnu a sicrhau’r gofal a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen.   

Rwyf wedi gwrando ar y farn a fynegwyd wrth graffu ar y Bil yn ystod Cam 1 ac rwy’n awyddus i sicrhau bod y fframwaith cyfreithiol sy’n sail i’n trefniadau asesu a chymhwysedd newydd yn ddigon cadarn a hyblyg i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer pobl.

Rwyf wedi hysbysu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fy mod yn bwriadu cyflwyno gwelliannau i’r Bil er mwyn cryfhau dyletswyddau awdurdodau lleol, fel a ganlyn: 

  • wrth asesu unigolyn bydd rhaid i’r awdurdod lleol ystyried cryfderau a gallu’r unigolyn, y teulu ac eraill sy’n eu cefnogi, yn ogystal ag anghenion yr unigolyn a’r canlyniad y mae’n dymuno ei weld;
  • bod yr unigolyn yn gallu cael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth (os oes angen hynny) yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau atal a gwasanaethau eraill yn y gymuned, os oes gan yr unigolyn angen cymwys neu beidio.  

Rwy’n croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a byddaf yn ystyried ei argymhellion dros yr haf, ac yn ymateb maes o law. 

Rwyf eisoes wedi darparu amryw o daflenni ffeithiau sy’n rhoi gwybodaeth am hawliau unigol.

Mae hawliau newydd i dderbyn asesiad yn rhan ganolog o’r fframwaith deddfwriaethol newydd. Bydd asesiadau yn gymesur ag angen ac yn rhoi blaenoriaeth i lesiant, a’r canlyniadau y mae pobl yn awyddus i’w sicrhau. Bydd yn golygu trafodaethau ystyrlon rhwng dinasyddion ac ymarferwyr ac eraill er mwyn deall beth sy’n bwysig i unigolion a’u teuluoedd yn well.

Rwy’n hyderus y bydd y system y mae’r Bil yn ei chyflwyno ar gyfer y dyfodol yn decach ac yn gwella gofal a llesiant ar gyfer pobl a’u gofalwyr. Rwyf hefyd yn credu y bydd y Fframwaith Asesu a Chymhwysedd rydym yn ei ddatblygu’n awr yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer y trawsnewidiad rydym yn awyddus i’w weld.

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r Fframwaith yn ystod y misoedd i ddod. Rwyf wedi dweud yn gwbl eglur fod rhaid i hyn gynnwys dinasyddion. Rhaid inni ymgorffori ein hymrwymiad i roi llais cryf a gwir reolaeth i bobl dros y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio a sicrhau bod hynny wrth wraidd datblygu’r prosesau craidd hyn. Dim ond drwy wrando ar bobl sy’n defnyddio gwasanaethau yn awr - a’r rheini fydd yn eu defnyddio yn y dyfodol - y byddwn yn gwneud hyn yn iawn. Dyma yw ein hymrwymiad i gydgynhyrchu.

Rwyf wedi cyhoeddi y bydd £1.5 miliwn ar gael eleni i wella gallu’r sectorau i drawsnewid.

 Rwy’n awyddus i roi gwybod ichi am hynt yr agwedd bwysig hon o’n rhaglen drawsnewid a byddaf yn cyhoeddi datganiad polisi pwysig ar y fframwaith arfaethedig yn ystod yr hydref.

Ffynonellau Gwybodaeth

Adroddiad yr  Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Access to Care and Well-being in Wales (tudalennau 14-30)

Taflenni gwybodaeth (tudalennau 19-22)