Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Y datganiad hwn ar Ofalwyr yw’r trydydd mewn cyfres o ddatganiadau rwy’n bwriadu eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau i ddod, i roi gwybod ichi am y cynigion polisi a fydd yn ffurfio Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).  

Sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn hybu lles pobl sydd angen gofal a chefnogaeth yw nod pennaf y Bil, a chefnogi gofalwyr mewn ffordd sy’n gyson â’u lles hwy a lles y bobl sydd dan eu gofal. Mae hefyd yn ceisio diffinio cyfrifoldebau llywodraeth leol a’i phartneriaid tuag at bobl sydd angen gofal a chefnogaeth a gofalwyr, yn ogystal â hawliau unigolion. Bydd yn darparu fframwaith cydlynol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol, sy’n sicrhau llais cryf a gwir reolaeth, a hynny am y tro cyntaf erioed. Bydd hefyd yn symleiddio’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd, er mwyn ei gwneud yn haws o lawer i’r bobl hynny sydd angen gwasanethau gael gafael arnynt, a’u deall.  

Mae cyfraniad gofalwyr anffurfiol i gymdeithas yn amhrisiadwy. Mae yna fwy na 350,000 o ofalwyr yng Nghymru, ac mae 90,000 ohonynt yn gofalu am deulu a ffrindiau am o leiaf 50 awr yr wythnos. Dyna pam yr wyf am iddynt fod wrth galon yr agenda hon i drawsnewid gofal cymdeithasol. Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a meddwl ymhellach sut y gallwn gryfhau’r gefnogaeth i ofalwyr, rwyf wedi penderfynu dod â’r darpariaethau sy’n ymwneud â gofalwyr a’r darpariaethau sy’n ymwneud â phobl sydd angen gofal a chefnogaeth eu hunain at ei gilydd. Golyga hyn y bydd gan ofalwyr hawliau cyfartal i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt, am y tro cyntaf erioed. Bydd fy nghynigion yn cynnwys mesurau i sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol:

  • yn deall nodweddion ac anghenion eu poblogaeth leol, gan gynnwys gofalwyr; 
  • yn darparu neu’n trefnu i ddarparu amrywiaeth a lefel o wasanaethau i ofalwyr, gan gynnwys gwasanaethau ataliol sydd o fewn cyrraedd iddynt yn y gymuned;  
  • yn sicrhau ei bod yn hawdd i ofalwyr gael gafael ar wybodaeth, cymorth a chyngor am y math o gefnogaeth a gwasanaethau sydd ar gael yn eu cymuned, ac yn eu helpu i ddeall sut y mae’r system gofal a chefnogaeth yn gweithio.    

Ar lefel unigol bydd gan ofalwyr:

  • hawl i asesiad o’u hanghenion cefnogaeth heb orfod gofyn yn ffurfiol am asesiad. Bydd dyletswydd yr awdurdod lleol i asesu yn cael ei ysgogi os yw’n ymddangos y gall fod gan y gofalwr anghenion neu y bydd gan y gofalwr anghenion yn sgil ei rôl ofalu;
  • hawl i gefnogaeth os yw eu hangen yn un sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso, sydd i’w nodi mewn rheoliadau;
  •  cynllun cefnogaeth statudol y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n rheolaidd, os oes ganddynt anghenion cymwys.

Bydd awdurdodau lleol hefyd yn parhau i fod â phwerau disgresiwn eang i ddarparu gwasanaethau i ofalwyr, fel sydd ganddynt ar hyn o bryd, pa un a ydynt yn tybio bod y gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwyso ai peidio.  

Mae hyn yn cynrychioli pecyn cynhwysfawr o fesurau i wella’r gefnogaeth i ofalwyr, ac mae’n dystiolaeth o’n hymrwymiad iddynt, er mwyn cydnabod eu cyfraniad aruthrol.  
Mae gennym gryn dipyn o ffordd i fynd ac mae’r cyfeiriad newydd hwn o ran ein hymateb i anghenion gofalwyr yn rhan o’n taith i weddnewid y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n amlwg fod llawer i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod y sector yn gallu cyflawni’r newidiadau a nodwyd gennym. Wrth inni gynllunio sut i roi’r diwygiadau pwysig hyn i’r gwasanaethau cymdeithasol ar waith, fodd bynnag, rwy’n bwriadu gweithio gyda mudiadau gofalwyr a phartneriaid allweddol eraill i wneud yn siŵr fod yr hyn rydym yn ceisio’i gyflawni dros ofalwyr yn ymarferol ac yn gynaliadwy. Yn fwy cyffredinol, byddaf hefyd yn ymgynghori ar gam nesaf ein Strategaeth ar gyfer Gofalwyr cyn hir. Bydd y Strategaeth honno’n adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd o ran datblygu polisi, deddfwriaeth a gwasanaethau i ofalwyr ers y tro diwethaf inni ei hadolygu yn 2007.