Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, 8 Mehefin 2015, cyflwynais Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (“y bil”) gerbron y Cynulliad.

Mae’r bil yn nodi diweddglo ar broses hir o ddatblygu ac ymgynghori, ac yn parhau â thraddodiad Cymru o ddefnyddio deddfwriaeth fel ffordd o wella a diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’n uchelgais i greu amgylchedd sy’n hyrwyddo lles, yn atal afiechyd lle bo hynny’n bosib, ac yn rhoi cyfleoedd newydd i bobl ofalu am, a gwella, eu hiechyd eu hunain.

Mae’r bil yn ymateb i gyfres o faterion sydd wedi’u diffinio’n glir, gyda phob maes yn ceisio gwneud cyfraniad cadarnhaol i iechyd a lles unigolion, a Chymru yn ei chyfanrwydd. Mae’n seiliedig ar y prif feysydd oedd wedi’u cynnwys yn ymgynghoriad y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd y llynedd.

Tybaco a Chynhyrchion Nicotin

Mae’r bil yn sicrhau bod y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin, megis e-sigaréts, yn cyd-fynd â’r defnydd o sigaréts tybaco drwy gyfyngu ar eu defnydd mewn mannau caeedig cyhoeddus, fel y cynghorir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Drwy wneud hynny bydd yn helpu i atal e-sigaréts rhag gwneud ysmygu yn rhywbeth normal eto, yn atal y posibilrwydd bod y defnydd o e-sigaréts yn arwain at ysmygu tybaco ac yn tanseilio’r gwaharddiad presennol ar ysmygu mewn mannau caeedig cyhoeddus a gweithleoedd.

Bydd y bil hefyd yn creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Bydd hyn yn helpu asiantaethau gorfodi i barhau i wahardd eu gwerthiant ac yn rhwystro plant a phobl ifanc rhag cael gafael arnynt. Bydd y bil hefyd yn creu trosedd newydd, sef rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin yn fwriadol i unigolyn sydd dan 18 oed, fel na all plant a phobl ifanc gael gafael arnynt drwy’r rhyngrwyd neu dros y ffôn.

Triniaethau arbennig

Mae’r bil yn creu system drwyddedu orfodol i fusnesau ac ymarferwyr sy’n cyflawni triniaethau arbennig - sef aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio. Bydd hyn yn cynnig gwell amddiffyniad i’r cyhoedd rhag y niwed all ddigwydd o arfer gwael, ac yn atgyfnerthu’r safonau uchel sydd eisoes yn bodoli ar draws llawer o’r diwydiant.

Tyllu rhannau personol o’r corff

Yn dilyn galwadau oddi wrth nifer o ymatebwyr i’r Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd, mae’r bil bellach yn cynnwys gwaharddiad cyffredinol ar dyllu rhannau personol o gorff unigolyn dan 16 oed. Nod y cam pwysig hwn yw amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed posibl i’w hiechyd a’u hatal rhag cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd bregus.

Gwasanaethau fferyllol

Mae’r bil yn gwneud newidiadau pwysig i’r ffordd y mae gwasanaethau fferyllol yn cael eu cynllunio, drwy ddefnyddio asesiad o anghenion fferyllol. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau bod y system yn fwy seiliedig ar anghenion iechyd cyhoeddus ehangach cymunedau.

Darpariaeth toiledau

Mae’r bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi strategaethau ar gyfer darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd o fewn eu hardal. Y nod yw gwella’r modd o gynllunio’r mater hwn sy’n bwysig i iechyd y cyhoedd, ac annog ystod lawn o opsiynau i’w harchwilio er mwyn sicrhau bod cyfleusterau priodol ar gael i’r cyhoedd.

Byddaf yn gwneud datganiad ar y bil i’r Cynulliad yfory, 9 Mehefin 2015.

Mae manylion y bil i’w gweld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gwefan allanol).