Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf yn cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ategol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd cyflwyno isafbris am alcohol yn rhan o ddull ehangach Llywodraeth Cymru o weithio mewn ffordd strategol i hyrwyddo perthynas iachach ag alcohol. Mae'n arwydd o ymrwymiad cadarn i wella a diogelu iechyd poblogaeth Cymru ymhellach, ac mae'n ffurfio rhan o raglen waith barhaus i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Nod y Bil yn y pen draw yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i ysbytai y gellid eu priodoli i alcohol a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, drwy leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed ymysg yfwyr niweidiol a pheryglus.

Mae’r Bil yn darparu isafbris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru ac yn ei gwneud yn drosedd i werthu neu gyflenwi alcohol o safleoedd cymwys am lai na’r pris hwnnw. Bydd yr isafbris ar gyfer cyflenwi alcohol yng Nghymru yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r isafbris uned, canran cryfder yr alcohol a'i gyfaint. Ni fydd yn cynyddu pris pob diod alcoholaidd, dim ond y rhai hynny sy’n cael eu gwerthu islaw’r isafbris uned cymwys ar hyn o bryd. Bydd y cynigion hefyd yn sefydlu cyfres o droseddau a chosbau sy'n gysylltiedig â’r system newydd. Mae'r Bil hefyd yn cynnig darparu pwerau a dyletswyddau ychwanegol i awdurdodau lleol i’w galluogi i orfodi’r system arfaethedig.

Yn benodol, mae’r Bil yn cynnig:

  • Y fformiwla ar gyfer cyfrifo'r isafbris cymwys am alcohol drwy luosi canran cryfder yr alcohol, ei gyfaint a'r isafbris uned. 
  • Pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i bennu’r isafbris uned.
  • Sefydlu gweithdrefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol â phwerau i erlyn ac i roi hysbysiadau cosb benodedig.
  • Pwerau mynediad ac archwilio i swyddogion awdurdodedig awdurdodau lleol a’i gwneud yn drosedd i rwystro swyddog awdurdodedig.
Mae pris yn dylanwadu'n gryf ar y galw am nwyddau a gwasanaethau ac mae hyn yn wir am alcohol.

Mae'r Bil yn cynnig y dylai'r isafbris uned gael ei bennu mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru ac nid oes penderfyniad wedi'i wneud hyd yn hyn ynghylch lefel yr isafbris hwn. Er hyn, at y diben o asesu'r effeithiau a'r costau a'r manteision cysylltiedig, mae dogfennau ategol y Bil, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, yn defnyddio isafbris uned o 50c fel enghraifft. Bydd y penderfyniad ar lefel yr isafbris uned i'w bennu yn y rheoliadau yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf.

Mae'r dystiolaeth yn dangos y gallai cyflwyno isafbris uned gael effaith bwysig ar lefelau yfed niweidiol a pheryglus yng Nghymru – lleihau lefelau yfed alcohol, niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol (gan gynnwys marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyfnodau yn yr ysbyty) a'r costau sy'n gysylltiedig â'r niweidiau hynny. Roedd ymchwil a wnaed gan Brifysgol Sheffield yn 2014 yn amcangyfrif y byddai gosod isafbris uned o 50c werth £882m i economi Cymru o ran gostyngiadau i nifer y salwch, troseddau ac absenoldebau o'r gweithle dros gyfnod o 20 mlynedd.

Effaith fach fyddai cyflwyno isafbris uned yn ei chael ar bobl sy'n yfed alcohol yn gymedrol. Bydd yn cael yr effaith fwyaf ar y bobl hynny sy'n yfed lefelau niweidiol a pheryglus o alcohol. Nod y Bil yw diogelu iechyd yfwyr niweidiol a pheryglus sy'n tueddu i yfed lefelau uwch o gynhyrchion alcohol cryf a rhad.

Mae dull wedi ei dargedu o bolisïau isafbris wedi bod yn ganolog i'r ddadl dros alcohol mewn nifer o wledydd ledled y byd. Drwy gyflwyno deddfwriaeth ar isafbris uned yng Nghymru, mae gennym y cyfle i wireddu ei botensial ar gyfer newid cyn gynted ag y bo modd a sicrhau manteision iechyd a manteision economaidd-gymdeithasol drwy'r wlad.

Mae galw ers tro i Gymru ailddiffinio ei pherthynas ag alcohol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi'r cyfle i ni wneud hynny.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y Bil i'r Cynulliad Cenedlaethol yfory.

Mae manylion y Bil a'r dogfennau cysylltiedig ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

http://www.assembly.wales/cy/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-progress-bills/Pages/bus-legislation-progress-bills.aspx