Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, 26 Ionawr 2015, cyflwynais y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Roedd y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014, Diwygio Llywodraeth Leol, yn cynnwys ein hymateb i’r agweddau llywodraeth leol ar adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus. Hefyd, roedd yn amlinellu ein cynigion cychwynnol ar gyfer cryfhau democratiaeth leol, a chynghorau sy’n fwy agored a thryloyw, yn rheoli eu perfformiad yn fwy effeithiol ac yn meithrin pherthynas newydd a chryfach gyda’u cymunedau. Roedd y Papur Gwyn yn manylu ar ein bwriad i ddatblygu rhaglen diwygio llywodraeth leol, gan gynnwys uno, drwy ddau Fil.
Bil Llywodraeth Leol (Cymru) yw’r cyntaf o’r ddau Fil arfaethedig er mwyn diwygio llywodraeth leol.
Bydd y Bil hwn yn caniatáu gwaith paratoadol ar gyfer rhaglen o ddiwygio ac uno awdurdodau lleol. Bydd yn gosod y drefn i brif awdurdodau lleol wneud cais uno gwirfoddol cynnar i Weinidogion Cymru. Mae’n amlinellu’r gofynion ar brif awdurdodau lleol i gyflwyno cais uno ar y cyd. Mae hefyd yn pennu’r rhanddeiliaid y mae’n rhaid i awdurdodau ymgynghori â nhw cyn gwneud cais uno gwirfoddol, gan gynnwys y cyhoedd, sefydliadau sy’n cynrychioli’r staff y mae’r awdurdodau yn eu cyflogi, aelodau o’r prif awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned yn yr ardal lle gallai fod uno, ynghyd â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn yr ardaloedd dan sylw.
Mae’r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch ceisiadau uno gwirfoddol ac yn dwyn i rym statudol y canllawiau a gyhoeddwyd ym mis Medi 2014 yn y ‘Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyflwyno cynigion ar gyfer uno gwirfoddol’.
Mae’r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, ar ôl derbyn cais uno, wneud “rheoliadau uno” ar gyfer cyfansoddiad prif ardal a chyngor newydd drwy uno’r prif ardaloedd presennol y mae cais yn berthnasol iddynt.
Er mwyn galluogi awdurdod newydd i weithredu’n effeithiol a chyfreithiol o’i ddiwrnod cyntaf, bydd angen gwneud penderfyniadau pwysig cyn i’r awdurdod newydd ddod i fodolaeth ar ôl uno. Felly, mae’r Bil yn darparu ar gyfer creu awdurdodau cysgodol ar gyfer yr awdurdodau sy’n uno’n wirfoddol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i brif awdurdodau lleol sydd wedi’u clustnodi ar gyfer uno, p’un ai’n wirfoddol neu fel arall, sefydlu pwyllgor pontio. Rôl y pwyllgor pontio fydd paratoi ar gyfer sefydlu’r awdurdodau newydd drwy wneud gweithgarwch paratoadol.
Rwyf eisiau sicrhau bod pob cyfnod cyn uno mor llyfn, adeiladol a chynhyrchiol â phosibl. Gall y rhanddeiliaid perthnasol ddefnyddio’r cyfnodau hyn yn dda i wneud paratoadau cynhwysfawr ar gyfer trosglwyddo i’r prif awdurdodau lleol newydd a’u sefydlu. I’r perwyl hwn, hoffwn annog ymddygiad cadarnhaol ac amddiffyn arian cyhoeddus rhag amryw ymddygiadau negyddol posibl a allai amharu ar y broses uno.
Mae’r Bil felly yn gwneud darpariaeth i sicrhau bod cyn lleied o gyfle â phosibl am ymddygiad negyddol a niweidiol, a hynny cyn gynted â phosibl yn y broses. Mae’n cyflwyno gweithdrefnau lle byddai’n rhaid i brif awdurdod lleol sy’n uno ac yn cynnig prynu neu werthu tir neu adeiladau, arwyddo contractau neu gytundebau, neu roi cymorth ariannol uwchlaw lefel benodol ym mhob achos, naill ai ofyn yn gyntaf am farn y pwyllgor pontio perthnasol neu, wedi iddo gael ei sefydlu, am gydsyniad ysgrifenedig gan yr awdurdod cysgodol cyn bwrw ymlaen.
Mae’r Bil yn darparu bod Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal adolygiadau trefniadau etholiadol ar gyfer prif awdurdodau arfaethedig ac yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru; a bod Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau i roi’r argymhellion ar waith, o’u haddasu neu beidio.
Mae hefyd yn darparu bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ymgymryd â’i swyddogaethau ynghylch taliadau a phensiynau cynghorwyr mewn perthynas ag Awdurdodau Cysgodol a blwyddyn gyntaf y prif awdurdodau lleol newydd. Mae’r Bil yn ymestyn dros dro gylch gorchwyl y Panel mewn perthynas â thâl prif weithredwyr i ymdrin â holl brif swyddogion y prif awdurdodau lleol er mwyn gosod mesurau diogelwch ychwanegol yn y cyfnod cyn uno. Mae hefyd yn cynyddu uchafswm nifer aelodau’r Panel o 5 i 6 fel ei fod yn gallu ymdrin â’r cynnydd a ragwelir yn y llwyth gwaith yn sgil y diwygiadau.
Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle sy’n codi drwy’r Bil i wneud rhai mân ddiwygiadau technegol i ddeddfwriaeth bresennol er mwyn gallu gweithredu’n ymarferol y darpariaethau dan sylw yn effeithiol. Yn unol ag argymhellion y Grŵp Arbenigwyr ar Amrywiaeth, bydd y diwygiadau a gyflwynir gan y Bil yn caniatáu i awdurdod lleol ddosbarthu holiaduron ar gyfer yr arolwg cynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, cyn etholiad lleol; ac egluro y gall awdurdod drefnu i drydydd parti gynnal yr arolwg ar ei ran. Mae’r Bil hefyd yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i gael gwared ar unrhyw ansicrwydd cyfreithiol ynghylch gallu Gweinidogion Cymru i roi ar waith argymhellion yr adolygiadau trefniadau etholiadol a gynhaliwyd gan gyn Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru.
Mae’r Bil hwn yn cychwyn ein rhaglen ddeddfwriaethol ar ddiwygio llywodraeth leol. Mae’n cynnwys darpariaethau pwysig i alluogi a chefnogi’r diwygio presennol. Ynghyd â deddfwriaeth bellach a mesurau eraill, bydd yn sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn gallu chwarae rôl allweddol yn nyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory ac rwy’n edrych ymlaen at weld y Cynulliad yn ystyried y Bil dros y misoedd i ddod.