Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwynodd y Gwir Anrhydeddus Liz Truss AS, yr Ysgrifennydd Tramor, Fil Protocol Gogledd Iwerddon yn Nhŷ'r Cyffredin ar 13 Mehefin. Roedd hyn heb i Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) ymgysylltu mewn unrhyw ffordd ystyrlon ymlaen llaw â Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r Bil. Mae hyn yn amlwg yn torri’r egwyddorion yn yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol sy’n nodi sut y dylai Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig weithio gyda’i gilydd.

Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU ym mis Mai gan nodi ei bryderon y byddai unrhyw gynigion i ddatgymhwyso rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon yn unochrog yn peri risg o niwed gwirioneddol i economi Prydain.

Mae'r Bil yn destun pryder mawr gan fod Llywodraeth y DU wedi dewis cyflwyno deddfwriaeth a allai, pe bai’n dod i rym, arwain at fethu â chyflawni'r rhwymedigaethau rhyngwladol yr ymrwymodd y Llywodraeth iddynt o’i gwirfodd pan gytunodd ar Brotocol Gogledd Iwerddon, fel rhan o'r Cytundeb Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Yn wir, yn ei geiriau ei hun, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu: “to introduce legislative measures which, on entry into force, envisage the non-performance of certain obligations”. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cyfiawnhau hyn ar sail yr athrawiaeth “rheidrwydd” o dan gyfraith ryngwladol. Mae sylwebyddion cyfreithiol arbenigol annibynnol, gan gynnwys cyn-Gyfreithiwr y Trysorlys, Syr Jonathan Jones CF, wedi beirniadu hygrededd y dull hwn ac wedi mynegi pryderon ynghylch y pwerau Harri’r Wythfed newydd a geisir yn y Bil fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd.

Mae camau gweithredu Llywodraeth y DU yn peri risg o greu niwed parhaol nid yn unig i enw da'r DU yn rhyngwladol ond hefyd i'r berthynas ehangach rhwng y DU a'r UE ac i fusnesau a phobl ledled Cymru a'r DU, wrth i'r UE weithredu mewn ymateb.

Nid yw dirywiad yn y berthynas â'r UE a mwy o drwgdeimlad o ran masnach – ar y gwaethaf, rhyfel masnach – o fudd i neb, yn enwedig o ystyried y risg o waethygu'r argyfwng costau byw. Dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio ar helpu teuluoedd a busnesau sy'n ei chael hi'n anodd, nid gwneud pethau'n waeth.

Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil ac rydym yn rhoi ystyriaeth briodol iddo. Ceir darpariaethau yn y Bil sy'n cyffwrdd â chymhwysedd Llywodraeth Cymru a'r Senedd. Rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd yn nodi y bydd angen inni ddadansoddi'r materion hyn yn ofalus a sefydlu beth fydd y goblygiadau i'n buddiannau, ein pwerau a'n cyfrifoldebau datganoledig, ynghyd ag effeithiau ehangach y Bil. Byddwn wrth gwrs yn gosod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil pan fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.