Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mai 2013, cyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru yn atal Bil Rheoli Cŵn (Cymru) o Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru am y tro. Gwnaed hynny am fod y Swyddfa Gartref ar fin cyflwyno Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona  2014, a’r llawlyfr ategol drafft, “Tackling irresponsible dog ownership”, a oedd yn ymdrin â nifer o’r materion ym Mil drafft Cymru.  

Cafodd y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona Gydsyniad Brenhinol yn gynharach eleni, ac rwyf yn falch o fedru dweud bod yr elfennau sy’n ymdrin â chŵn peryglus wedi dod i rym ar 14 Mai. Mae’r pwerau newydd hyn yn ehangach ac yn fwy llym wrth fynd i’r afael ag ymosodiadau, ac mae dolen i wefan Defra, lle’r esbonnir hyd a lled y pwerau hynny, i’w gweld isod.  

https://www.gov.uk/government/organisations/department-for-environment-food-rural-affairs

Mae’n werth nodi bod pwerau i ymdrin ag ymosodiadau ar eiddo preifat ac ymosodiadau ar gŵn cymorth wedi’u cynnwys ym Mil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona  2014 o ganlyniad uniongyrchol i’r cydweithredu a fu gyda Llywodraeth Cymru ar y darn hwn o ddeddfwriaeth.

Bydd y pwerau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a pherchenogion cŵn yn dod i rym yn ddiweddarach eleni. Yn y cyfamser, mae canllawiau’n cael eu datblygu ar gyfer yr asiantaethau gorfodi – a hynny eto ar y cyd â Llywodraeth Cymru.  

Roeddem wedi ymrwymo i gadw Bil Rheoli Cŵn (Cymru) nes y byddem yn fodlon y byddai’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona  yn diwallu anghenion Cymru. Comisiynais gymhariaeth fanwl o’r ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn ddiweddar ac rwyf yn fodlon bod y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, ynghyd â’r canllawiau ategol, yn gallu diwallu anghenion Cymru. Mae’n cynnwys pwerau i fynd i’r afael â:  

  • digwyddiadau lefel isel lle mae cŵn yn peri pryder mewn mannau cyhoeddus/preifat;
  • ymosodiadau ar gŵn tywys; 
  • perchenogion anghyfrifol, ond gan sicrhau ar yr un pryd bod lles y ci yn cael ei ystyried hefyd.

Teimlwn y byddai’r camau gweithredu hyn, yn ogystal â chydweithio’n agos â’r bobl hynny yn yr awdurdodau lleol, yr heddluoedd a’r sefydliadau allwedddol eraill a fydd yn gorfodi darpariaethau’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, yn fodd i symbylu newid ac i wella’r disgwyliadau yng Nghymru ymhellach o ran perchenogaeth gyfrifol.    

Gallaf gadarnhau, felly, y bydd Bil Rheoli Cŵn (Cymru) yn cael ei ddileu o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

Am nad yw deddfwriaeth y DU yn rhoi’r un flaenoriaeth i berchenogaeth gyfrifol ar gŵn â’r bwriad polisi a oedd wrth wraidd Bil Rheoli Cŵn (Cymru) Llywodraeth Cymru, rwyf wedi derbyn cynnig RSPCA Cymru i fwrw ymlaen â darn o waith a fydd yn rhoi cyngor imi am y mater hwnnw. Rwyf yn disgwyl iddynt weithio gyda phartïon perthnasol yn y trydydd sector ac yn awdurdodau lleol Cymru sydd â diddordeb yn y mater hwn ac sy’n gyfrifol am faterion yn ymwneud â gorfodi, lles ac addysg.  

Byddaf yn cael eu hadroddiad hwy yn yr hydref. Yna, caiff yr adroddiad ei ystyried gan y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid. Byddaf yn rhoi gwybod i’r aelodau yn yr hydref am gamau gweithredu pellach.