Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Senedd ar ymagwedd Llywodraeth y DU at gymorthdaliadau yn awr bod y DU y tu allan i'r UE fel y nodir ym Mil Rheoli Cymorthdaliadau'r DU 2021 a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 30 Mehefin.

Rydym wedi dadansoddi manylion y Bil ac mae gennym bryderon difrifol am ymagwedd Llywodraeth y DU gan nad yw'n adlewyrchu unrhyw rai o'r materion a nodwyd yn wreiddiol gan Weinidogion Cymru yn ystod y broses o ddatblygu polisi. Er gwaethaf awgrymiadau gan Lywodraeth y DU bod ymgysylltu manwl wedi'i gynnal, nid yw'r Bil ond yn adlewyrchu buddiannau cul Llywodraeth y DU.

Ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, at Weinidog y DU dros Fusnesau Bach, Defnyddwyr a Marchnadoedd Llafur, Paul Scully AS, yn amlinellu ein pryderon a restrir isod.

Datblygwyd y Bil Rheoli Cymorthdaliadau yn ôl amserlen diangen o dynn, gan arwain at ddiffyg ymgysylltu ystyrlon ar fanylion y Bil, yn ogystal â chyfle cyfyngedig yn unig i Weinidogion llywodraethau datganoledig dylanwadu ar ei gynnwys cyn iddo gael ei osod. Dylai'r broses fod wedi cael ei chynnal mewn ffordd fwy cytbwys a chydweithredol er mwyn galluogi dull gweithredu i gael ei ddatblygu ar gyfer y DU gyfan.

O ganlyniad, er gwaethaf ein hymdrechion i ymgysylltu â'r broses o ddatblygu polisi, nid yw'r Bil ond yn adlewyrchu buddiannau gwleidyddol cul Llywodraeth y DU yn hytrach nag anghenion ehangach y DU gyfan.

Rydym yn pryderu nad yw'r Bil yn cynnwys unrhyw lwybr diffiniedig i ganiatáu i ranbarthau difreintiedig y DU gystadlu yn gyfartal â rhanbarthau mwy llewyrchus y DU, naill ai trwy lwybrau ychwanegol ar gyfer cymorth neu ddefnydd gwarantedig o lwybrau cymhorthdal ystwyth. Rydym wedi galw ar i hyn gael ei egluro a'i wneud yn gyfraith er mwyn tanategu'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi rhannau mwy difreintiedig o Gymru a chreu Teyrnas Unedig decach.

Mae'r Bil yn darparu ar gyfer pwerau newydd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Strategaeth Ddiwydiannol “alw i mewn” materion cymhorthdal gan gyrff dyfarnu yng Nghymru ar gyfer adolygiad annibynnol gan yr awdurdod Cystadlaethau a Marchnadoedd.  Mae'r pwerau galw i mewn a ddefnyddir gan y Bil i rymuso'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol yn faen tramgwydd annerbyniol ar feysydd polisi datganoledig trwy roi pwerau i Lywodraeth y DU gyfyngu ar wneud penderfyniadau ar feysydd polisi datganoledig. Ni ddylai'r Bil Rheoli Cymorthdaliadau effeithio ar bwerau datganoledig Gweinidogion Cymru na bod yn arf i wrthdroi datganoli trwy ddrws y cefn.

Mae'r Bil yn dod â chymorthdaliadau Amaethyddol a Physgodfeydd o fewn cwmpas trefn cymorthdaliadau'r DU er gwaethaf pryderon a godwyd droeon gan Weinidogion Cymru a'r llywodraethau datganoledig eraill ynghylch yr anhawster wrth ddarparu tystiolaeth o gydymffurfiad cymorthdaliadau ag egwyddorion y drefn ar gyfer cymorthdaliadau cytûn, yn ogystal â diffyg canllawiau manwl. Er y dylid cydnabod bod y Bil yn darparu hepgoriadau hael ar gyfer 'legacy and withdrawal agreement subsidies', bydd gwerth y rhain yn gostwng dros amser ac mae'n ategu ein dadl y dylai cymorthdaliadau Amaethyddol a Pysgodfeydd aros y tu allan i drefn cymorthdaliadau'r DU.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn wedi'i osod heddiw:

LEGISLATIVE CONSENT MEMORANDUM (senedd.cymru)