Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a'r Memorandwm Esboniadol yn cael eu gosod gerbron y Senedd.

Nod y Bil yw gwneud y Senedd yn fwy effeithiol drwy adlewyrchu cyfansoddiad pobl Cymru o ran rhywedd yn well. 

Mae'n gwneud darpariaeth i gyflwyno cwotâu rhywedd statudol integredig i'r system y darperir ar ei chyfer ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) er mwyn ethol Aelodau o'r Senedd. Bydd y darpariaethau'n gymwys pan fydd plaid wleidyddol gofrestredig yn dewis cyflwyno rhestr neu restrau o ymgeiswyr i'w hethol i'r Senedd. Mae'r Bil yn creu rheolau y mae'n rhaid i restrau ymgeiswyr o'r fath gydymffurfio â nhw.

Mae'r Bil yn rhan o becyn o ddiwygiadau sydd â'r nod o gryfhau'r Senedd. Mae hyn yn cynnwys Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sy'n mynd drwy'r broses graffu yn y Senedd ar hyn o bryd. Mae'n gwireddu argymhelliad Pwyllgor Diben Arbennig y Senedd ar Ddiwygio'r Senedd y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn. Mae’r Bil hwn yn rhan o'r‌ Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Rwy'n edrych ymlaen at waith craffu'r Aelodau ar y Bil, ac at glywed barn rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol.