Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n dda iawn gen i’ch hysbysu ein bod yn cyflwyno Bil Tai (Cymru) heddiw, 18 Tachwedd 2013. 

Mae’r cynigion yn y Bil yn ymgorffori ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud mwy i ddiwallu anghenion tai pobl.  Mae’r Bil yn gyfraniad pwysig arall at ein tair blaenoriaeth strategol, sef sicrhau mwy o gartrefi, cartrefi gwell a gwasanaethau gwell. I fanylu, bydd y Bil yn gwneud  mwy i sicrhau bod pobl yn cael cartref gweddus fforddiadwy a bod y bobl sydd mewn perygl o golli’u cartref yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw.  Mae’r Bil wedi’i rannu’n saith rhan ond mae pob un yn cyfrannu at wireddu’r amcanion hyn mewn rhyw ffordd. 

Wrth geisio sicrhau’r canlyniadau hyn, mae’r Bil yn darparu yn y meysydd canlynol: 

Rhan 1: Rheoleiddio Tai Rhent Preifat 

Mae’r sector rhent preifat yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth ddarparu’r tai sydd eu hangen ar bobl.  Mae’r Bil yn pennu gofynion ar gyfer cofrestru a thrwyddedu landlordiaid yn y  sector rhent preifat.  Y bwriad yw codi safonau yn y sector, gan roi mwy o wybodaeth i awdurdodau lleol a thenantiaid am landlordiaid a chodi ymwybyddiaeth landlordiaid o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. 

Rhan 2: Digartrefedd 

Bydd y Bil yn sicrhau bod llai o deuluoedd yn dioddef y trawma o golli cartref ac effaith tymor hir hynny ar eu bywydau.  Bydd yn rhoi hyd yn oed fwy o bwyslais ar rwystro digartrefedd yn y lle cyntaf trwy gryfhau rôl awdurdodau lleol i rwystro digartrefedd fel rhan o’u dyletswyddau i helpu pobl ddigartref a’r rheini sy’n wynebu digartrefedd. Bydd diwygio’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd yn ysgogi ffordd fwy cynhwysol o ymdrin â’r mater gan sicrhau bod pawb sydd mewn perygl yn cael help i ddatrys eu problemau lletya.  Bydd yn cryfhau’r mesurau i amddiffyn plant mewn teuluoedd digartref a theuluoedd sy’n wynebu digartrefedd. Rwyf wedi cyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad y cynhalion ni ar fy nghynnig i newid statws angen cyn garcharorion yn ein cynigion ar ddigartrefedd.  Cawsom lawer o gefnogaeth i’r cynnig.  O ganlyniad, rwyf wedi cynnwys y diwygiad ar wyneb y Bil. 

Rhan 3: Sipsiwn a Theithwyr 

Bydd y ddeddfwriaeth yn sicrhau bod mwy’n cael ei wneud i ddiwallu anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.  Gwneir hyn trwy roi dyletswydd statudol newydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd newydd i Sipsiwn a Theithwyr lle gwelir bod angen.  Bydd angen i awdurdodau lleol gynnal asesiadau trylwyr o’u hanghenion a sicrhau bod safleoedd yn cael eu darparu.  Bydd hynny’n gwella safonau i deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a’u helpu i fanteisio’n rhwyddach ar wasanaethau.  Bydd yn helpu hefyd i fynd i’r afael â’r annhegwch y mae cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn ei ddioddef yn ogystal â lleihau nifer y gwersylloedd heb ganiatâd. 

Rhan 4: Safonau ar gyfer Tai Cymdeithasol 

Ar gyfer tai cymdeithasol, mae’r Bil yn gosod safonau ar gyfer rhenti, tâl am wasanaethau ac ansawdd tai awdurdodau lleol er mwyn gallu bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.  Bydd hyn yn sicrhau bod pob tenant yn cael byw mewn cartref o safon dderbyniol, waeth a yw’n ei rentu oddi wrth awdurdod lleol neu gymdeithas dai.  Trwy bennu safonau ar gyfer rhenti awdurdodau lleol a’r taliadau a godir ganddynt am wasanaethau, gwneir y taliadau gan denantiaid i awdurdodau lleol yn fwy tryloyw.

Rhan 5 : Cyllid Tai 

Ar ôl cytuno ar y setliad ariannol terfynol â Thrysorlys ei Mawrhydi ym mis Mehefin, bydd y Bil yn dileu system gymorthdaliadau’r Cyfrif Refeniw Tai.  Bydd system hunanariannu newydd yn cymryd ei lle fydd yn caniatáu i bob awdurdod lleol yng Nghymru gadw ei incwm rhenti.  Bydd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i awdurdodau lleol wneud mwy i wella ansawdd eu stoc dai. 

Rhan 6: Caniatáu i Gymdeithasau Tai Cwbl Gydfuddiannol roi Tenantiaethau Sicr 

Bydd y Bil yn hwb hefyd i ehangu prosiectau tai cydweithredol fel ffordd arall o gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.  Bydd yn rhoi’r hawl i gwmnïau tai cydweithredol cwbl gydfuddiannol roi tenantiaethau sicr byrddaliadol. Trwy allu gwneud hynny, bydd yn rhoi mwy o sicrwydd a diogelwch i denantiaid tai cydweithredol.  Mae’r Bil yn help hefyd i gwmnïau tai cydweithredol cwbl gydfuddiannol i gael cyllid ar gyfer datblygiadau gan y bydd yn warant ychwanegol i fenthycwyr. 

Rhan 7: Treth Gyngor ar Dai Gwag 

Yn olaf, bydd y Bil yn caniatáu i awdurdodau lleol godi treth gyngor safonol o 150% ar eiddo sy’n wag am 12 mis neu fwy, os dyna’u dewis.  Amcan hynny yw gwneud y defnydd gorau posibl o dai trwy sbarduno eu defnyddio.  O ganlyniad, bydd yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau lleol yn y cyflenwad tai yn ogystal â thaclo problemau eraill y gall tai gwag eu hachosi, fel fandaliaeth a mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Fy rhagflaenydd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, ddechreuodd ddatblygu’r Bil hwn ac mae’n ffrwyth llawer iawn o waith.  Mae llawer o gyrff o fewn y maes tai a’r tu allan iddo wedi cyfrannu ato.  Rydym yn rhannu’r awydd i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl a gwneud mwy i ddiwallu anghenion pobl am dai. Rwy’n ddiolchgar i bawb am eu help.