Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, 30 Mehefin 2014, cyflwynwyd Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).

Mae’r Bil yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â materion cymdeithasol oesol sef trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod mai menywod sy’n dioddef waethaf oherwydd pob math o drais personol a bod hyn yn wir yng Nghymru, yn gyson â gweddill y byd.  

Er mai menywod sy’n dioddef waethaf ac amlaf oherwydd trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae'r Bil yn cydnabod y gall dioddefwyr ddod o bob rhan o gymdeithas. Mae’r Bil yn ymestyn i bobl hŷn, pobl o bob ethnigrwydd, crefydd a chredo, pobl ag anableddau a phobl o'r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol.
 
Nod y Bil yw ceisio gwella ymateb y sector cyhoeddus i drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bwriedir iddo gynnig canolbwynt strategol ar y materion hyn sicrhau bod ystyriaeth gyson yn cael ei rhoi i fecanweithiau atal, amddiffyn a chefnogi wrth ddarparu gwasanaethau.

Mae’r Bil yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol (“yr Awdurdodau Lleol”) a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi a chyhoeddi  strategaethau i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Ymhellach mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar gyfer yr Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG  ac Awdurdodau Tân ac Achub, ar sut y dylent arfer eu swyddogaethau er mwyn gweithio i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ceir darpariaeth yn y Bil hefyd ar gyfer penodi Cynghorydd Gweinidogol, y rôl gyntaf o’i math yn y DU.  

Mae cyflwyno Bil penodol ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dangos y pwyslais y mae Llywodraeth Cymru’n ei roi ar fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae’r Bil yn rhan o becyn o fesurau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cyflwyno i fynd i’r afael â thrais a cham-drin o’r fath.

I gefnogi’r Bil rydym yn bwrw ymlaen â nifer o fentrau polisi allweddol, gan gynnwys mewn cysylltiad â’n hagenda Perthnasoedd Iach.  Rwyf wedi cynyddu lefel yr arian sy’n cael ei ddarparu i Hafan Cymru i ymestyn cwmpas y Rhaglen Sbectrwm, sy’n cyflwyno gwersi  Perthnasoedd Iach mewn ysgolion ledled Cymru.  Caiff y rhaglen estynedig ei rhoi ar waith o hydref 2014 ymlaen ac fe gaiff addysg Perthnasoedd Iach ei chyflwyno mewn 100% o ysgolion dros gyfnod o ddwy flynedd.  Mae cynnydd yn cael ei wneud hefyd mewn perthynas â phecyn ehangach o fesurau ysgol-gyfan er mwyn sicrhau bod ysgolion yn rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Rwyf hefyd yn lansio ymgyrch gyhoeddusrwydd heddiw i godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn ledled Cymru.  Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei henwi heddiw yn sefydliad ‘Rhuban Gwyn’, i gydnabod ein hymdrechion o ran mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae Llywodraeth Cymru’n arwain y ffordd yn hyn o beth. Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn y Senedd yn y Cyfarfod Llawn yfory ac edrychaf ymlaen at yr ystyriaeth y bydd y Cynulliad yn ei rhoi i’r Bil dros y misoedd i ddod.