Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi darparu rhagor o wybodaeth am ddatganoli cyllidol heddiw, gan nodi fy mwriad i gyflwyno'r trethi datganoledig newydd, y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, cyn gynted â phosib.

Rwy'n falch o ddweud fy mod yn cyhoeddi drafft o'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol heddiw. Mae’r drafft hwn yn cael ei gyhoeddi er mwyn i Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid sydd â buddiant gael cyfle dros yr haf i ymygyfarwyddo â'r Bil hir, technegol a chymhleth hwn cyn iddo gael ei gyflwyno'n ffurfiol yn yr hydref.

Bydd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yn darparu ar gyfer treth ar drafodiadau tir o 1 Ebrill 2018 ymlaen, gan ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru. Rydym wedi trafod yn eang wrth lunio'r polisi a datblygu'r dreth newydd hon. Yn gyffredinol, roedd y rhanddeiliaid yn galw am gysondeb gyda'r dreth bresennol ar draws y DU oni bai bod achos dros wahaniaethu ar sail gwella effeithlonrwydd neu ganolbwyntio ar anghenion a blaenoriaethau Cymru. Dyma'r trywydd i'w ddilyn o hyd: ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid. Mae'r Bil yn cadw prif elfennau Treth Dir y Dreth Stamp, gan gynnwys yr ymagwedd at bartneriaethau, ymddiriedolaethau a chwmnïau, ac yn gyffredinol at ryddhad ac eithriadau.

Rwy'n ymwybodol o'r newidiadau diweddar a wnaed gan lywodraethau'r DU a'r Alban i'w trethi, yn arbennig y gyfradd ychwanegol ar ail gartrefi. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y newidiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eleni, ac mae'r ddeddfwriaeth ar ei thaith drwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad technegol am ymagwedd polisi Cymru er mwyn sicrhau bod trethdalwyr, asiantwyr a rhanddeiliaid ehangach yn cael cyfle i roi eu barn ynghylch sut y gallai hyn weithio yng Nghymru, gyda'r nod o gyflwyno deddfwriaeth ar hyn yn ystod proses graffu'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Nid yw'r bil drafft yn cael ei gyhoeddi heddiw at ddibenion ymgynghoriad pellach, ond yn hytrach i'ch helpu i ymgyfarwyddo ag ef. Mae'r gwaith o baratoi'r Bil yn parhau, ac mae'n debygol y bydd newidiadau cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cynulliad. Felly nid dyma fersiwn derfynol y bil.

Bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu gyda busnesau, arbenigwyr ar drethi a rhanddeiliaid eraill yn ystod y cyfnod yn arwain at gyflwyno deddfwriaeth ar y Dreth Trafodiadau Tir yn yr hydref.

Rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r Cynulliad ar ddarpariaethau'r bil yn ystod y broses graffu ar ôl i'r bil gael ei gyflwyno yn yr hydref.